Cardiau gweithgaredd

Clay heads
1

Pennau o glai (sy’n gallu siarad!)

Cyfranogwyr yn cerflunio pennau cerfwedd o glai sy’n caledu ei hun. Yna defnyddir meddalwedd animeiddio syml i animeiddio’r pennau gyda lleisiau’r cyfranogwyr.

Pethau sydd eu hangen:

  • Clai sy’n caledu ei hun (teracota sydd orau)
  • Offer cerflunio clai
  • Taflen blastig (maint A4)
  • Paent acrylig wmbr llosg
  • Farnais acrylig clir
  • Camera neu ffôn i dynnu llun llonydd
  • Recordiwr llais (neu ap ffôn)
  • Gliniadur gyda meddalwedd animeiddio (e.e. Realillusion Crazytalk)

Canllaw Cam wrth Gam:

  1. Dechreuwch gyda phêl o glai (oddeutu 20cm mewn diamedr). Ar fwrdd addas, rholiwch y clai ar ben y daflen blastig gan ddefnyddio rholbren, crëwch siâp hirgrwn oddeutu 1.5cm o drwch.
  2. Er mwyn rhoi nodweddion y wyneb yn y lle cywir, rydw i’n defnyddio templed papur gyda’r llygaid, trwyn a’r geg wedi’u torri allan ac ychwanegu gwddf ac ysgwyddau. Rhowch hwn ar eich clai sydd wedi’i rowlio a thorri o’i gwmpas gan ddefnyddio cyllell blastig, byddwn yn defnyddio’r clai dros ben yn fuan. Gallwn farcio safle’r llygaid, trwyn a cheg drwy dynnu llun yn ysgafn ar y clai.
  3. Tynnwch y templed a defnyddiwch y clai dros ben i ddechrau adeiladu nodweddion y wyneb sy’n sticio allan – y talcen, y trwyn, bochau, gwefusau a gên; gellir gwneud y rhan fwyaf o hyn gyda bysedd. (Gallai’r cyfranogwyr ddefnyddio ei gilydd fel modelau ar gyfer hyn).
  4. Ymlaen at y llygaid. Gellir gwneud hyn drwy naill ai dynnu llun yn syml gydag offeryn miniog neu drwy adeiladu clai i greu hirgrwn 3D a thynnu lluniau o amrannau a channwyll llygaid etc. Gellir ychwanegu manylion eraill megis aeliau ac amrannau gan ddefnyddio offeryn miniog. 
  5. Yn olaf, ychwanegwch wallt. Cofiwch wrth ychwanegu clai at glai, crafwch arwyneb y ddau yn ysgafn ac ychwanegwch ychydig o ddŵr, pwyswch y clai i lawr yn gadarn; mae hyn yn atal pethau rhag disgyn i ffwrdd pan fydd y clai yn sychu. (Awgrym Ardderchog: os, yn y pendraw, hoffech hongian y pennau i fyny, gwnewch ychydig o dyllau er mwyn edafu’r llinyn drwyddynt dra eu bod dal yn wlyb).
  6. I orffennu’r pennau clai fel cerflunwaith, gadewch iddynt sychu a rhowch haen o farnais acrylig clir arnynt. Pan fyddant wedi sychu, defnyddiwch baent acrylig wmber llosg (neu ddu) wedi’i wanhau â dŵr a’i frwsio i’r holl dyllau yn y clai, yna defnyddiwch sbwng neu ddarn o gadach papur i sychu’r paent arwyneb, bydd hyn yn amlygu gweadau a manylion y darn, yna gallech roi farnais arno eto.
  7. Er mwyn gwneud animeiddiad, yr unig beth sydd ei angen arnoch yw llun o’r pen gorffenedig. Wrth ddefnyddio meddalwedd fel Realillusion Crazytalk, rhaid i chi sicrhau bod eich pen yn wynebu ymlaen, yn debyg i lun pasbort, mae cael gwddf ac ysgwyddau yn helpu hefyd. Mewnforiwch y llun a dilynwch y dewin cam wrth gam i fasgio’r cefndir a rhoi ‘fframiau weiren’ o gwmpas elfennau’r wyneb. Pan fydd y broses hon wedi’i chwblhau, bydd y feddalwedd yn cysylltu symudiadau gwefusau’r pen clai yn awtomatig ag unrhyw sain y byddwch yn ei fewnbynnu i’r prosiect a rhoi symudiad iddo hefyd. Gallai’r sain ddod o gyfranogwyr yn adrodd straeon, dweud jôcs, adrodd ryseitiau neu ganu. Yna gallwch fewnbynnu unrhyw lun yr hoffech fel cefndir hefyd.

 

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:

Gallai cyfranogwyr wneud pennau sy’n gymeriadau o stori neu olygfa o hoff ffilm. Yna gallant gymryd eu tro yn adrodd y stori a defnyddio acenion gwahanol hefyd i’w ddefnyddio fel trac sain. Gydag ychydig o gymorth, gellir creu ffilm eithaf cymhleth gyda cherddoriaeth ddramatig briodol etc.

Addasrwydd

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai galluog:

Gall rholio a thorri’r clai ymlaen llaw fod yn ddefnyddiol. Gall y pennau hyn fod mor syml neu gymhleth ag yr hoffai’r cyfranogwr, felly gallai’r rheiny nad ydynt yr un mor fedrus geisio tynnu llun ar y clai gyda gwahanol offer er mwyn cael amrywiaeth o fanylion a gweadau. 

Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall: 

Mae’r pennau yn gwneud cerfluniau unigol gwych, ond mae’n ddiddorol iawn eu hanimeiddio a’u gweld yn cynnal sgyrsiau. Fel yr wyf wedi sôn, gallai’r rhain fod yn gymeriadau sy’n adrodd straeon neu’n dweud jôcs, neu fel côr pennau clai hyd yn oed! Rwyf hefyd wedi gweld cyfranogwyr yn ateb cwestiynau’r un ar holiadur – ynglŷn â holl lefydd, pethau i’w gwneud, pethau mae pobl yn eu methu etc. a chyfuno’r rhain mewn fideo byr.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais