Ciwb cARTrefu

Cube host

Ciwb cARTrefu

Gwybodaeth am Arddangosfa Ciwb cARTrefu ar gyfer Lleoliadau

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnal Ciwb cARTrefu yn eich lleoliad chi? 

Un o amcanion prosiect cARTrefu yw defnyddio arddangosfeydd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o fywyd creadigol mewn cartrefi gofal, trwy gyfrwng y gwaith celf sydd wedi ei greu gyda, a’i ysbrydoli gan, bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal, yn gweithio ynddynt ac yn ymweld â nhw. 

Mae artistiaid cARTrefu’n byw ac yn gweithio ledled Cymru, ac wrth fynd â’n Ciwb cARTrefu ar daith, rydym yn gallu dod â gwaith artistiaid lleol i’r cyhoedd, drwy gysylltiadau gyda lleoliadau fel eich un chi. 

Y Ciwb

Rydym yn gyffrous iawn am ein Ciwb cARTrefu ac rydym bob amser yn chwilio am leoliadau newydd i gynnal y Ciwb ac ehangu’r daith o amgylch Cymru, i rannu’r gwaith sydd wedi’i greu drwy brosiect cARTrefu.

Mae’r Ciwb yn sefyll yn annibynnol ac yn hunangynhwysol, ac mae’n 2.025m x 2.025m x 2.025m, wedi’i wneud o strwythur dur wedi’i amgylchynu gan bolycarbonad clir. 

Mae’n addas i’w ddefnyddio dan do neu yn yr awyr agored; a gall gynnwys gwaith celf statig, neu waith sy’n seiliedig ar berfformiad, os oes digwyddiadau penodol y gallai fod yn rhan ohonynt. Rydym yn cynnig y Ciwb am chwech i wyth wythnos ar y tro. 

Mae ein hartistiaid wedi datblygu cyfoeth o waith yn barod ar gyfer arddangosfa, felly rydym yn hapus i drafod gyda chi’r math o waith yr hoffech ei weld ynddo, pe baech yn ei gynnal.  

cartrefu@agecymru.org.uk 

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais