Dewch yn aelod o’r gymuned

Y fforwm cARTrefu yw ein cymuned ar-lein i ymgysylltu â chartrefi gofal ac artistiaid eraill ledled Cymru. (cydlynwyr gweithgareddau, cydlynwyr llesiant, gweithwyr gofal, ac artistiaid proffesiynol.) 

Gwyddom fod gan gartrefi gofal rwydweithiau cymorth fel rhan o grŵp eu cartref gofal, ac mae eraill wedi llwyddo i sefydlu grwpiau cartrefi gofal yn eu hardal. Mae’r rhwydweithiau cymorth hyn yn amhrisiadwy i’r rheiny sydd ynghlwm. Serch hynny, drwy ein gwaith â chartrefi gofal rydym yn cwrdd â chymaint o gydlynwyr gweithgareddau sy’n teimlo’n unig iawn yn eu gwaith, ac felly, mae cwrdd ag eraill yn ystod ein gweithdai wedi bod yn hynod fuddiol iddynt. Gwnaeth hyn i ni feddwl pa mor wych fyddai cael llwyfan am ddim i ddwyn ynghyd holl weithwyr cartrefi gofal sy’n cyflwyno gweithgareddau creadigol yn eu cartref, a chaniatáu pawb i sgwrsio, rhannu, gofyn cwestiynau, cyfnewid syniadau, ceisio neu gynnig cymorth, ac yn fwy na dim, gwneud cysylltiadau. Felly, aethom ati i ddatblygu’r llwyfan hwnnw a dyma ei gyflwyno. Ymunwch â ni am sgwrs. Gallai eich cyfraniad wneud byd o wahaniaeth i rywun arall, ac efallai gall aelodau eraill gynnig awgrymiadau nad ydych chi wedi meddwl amdanynt o’r blaen. 

Rydym hefyd wedi gweithio gyda nifer o artistiaid ledled Cymru sydd â phrofiad o weithio gyda phreswylwyr mewn cartrefi gofal, neu sydd â diddordeb mewn gwneud hynny. Rydym yn gwahodd yr artistiaid hyn i ymuno â’r gymuned i gynnig cyfarwyddyd lle bynnag mae hynny’n bosibl, ond hefyd i ddysgu o brofiadau aelodau eraill a fydd yn cynorthwyo eu darpariaeth wrth weithio gyda phreswylwyr cartrefi gofal. 

Mae hwn yn le diogel, felly gofynnwn i chi ddefnyddio’r fforwm yn gyfrifol a dangoswch barch tuag at aelodau eraill. Bydd unrhyw un sy’n torri’r rheolau hyn yn cael ei dynnu o’r gymuned. 

Caiff y fforwm ei reoli gan cydlynydd y prosiect

Sut ydw i’n ymuno?

Gall unrhyw un fynd ar y fforwm ac edrych ar yr adrannau cyhoeddus. Ond er mwyn postio ar y fforwm rhaid i chi ymuno â’r fforwm cARTrefu fel aelod. Mae aelodaeth am ddim

Rwy’n cael trafferth gyda defnyddio’r fforwm – gyda phwy y gallaf gysylltu?

Os hoffech wybod mwy am fforwm cARTrefu neu os ydych yn cael unrhyw anhawster wrth gofrestru neu ddefnyddio’r fforwm, cysylltwch â ni yn cartrefu@agecymru.org.uk 

Y fforwm cARTrefu

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais