Cymerwch ran

Mae coronafeirws, neu COVID-19, yn effeithio ar sawl agwedd ar fywyd yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae angen i bob sefydliad asesu’r cyngor y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi a llunio barn ynghylch sut y bydd hyn yn effeithio arnynt.

Yn dilyn asesiad risg manwl a’n pryder am lesiant y rhai rydym yn gweithio gyda nhw, rydym wedi penderfynu symud ein gweithdai a’n cynlluniau gweithgareddau cARTrefu ar-lein. Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa, a gobeithio y cawn ddychwelyd i weithio gyda chi wyneb yn wyneb yn y dyfodol agos

Rydym yn cynnal gweithdai hanner diwrnod rheolaidd ledled Cymru i gyflwyno staff cartrefi gofal i cARTrefu, gan roi cyngor ac awgrymiadau ymarferol ar sut i redeg gweithgareddau creadigol mewn cartrefi gofal, gan fagu hyder staff, a defnyddio adnoddau presennol.

Bydd ein hartistiaid hefyd yn gweithio gyda staff cartrefi gofal dros bedair wythnos i ddatblygu cynlluniau gweithgareddau cARTrefu cynaliadwy, sy’n hygyrch ac yn hawdd i’w cyflwyno. Mae’r gweithdai a’r cynlluniau gweithgareddau ar gael yn rhad ac am ddim i gartrefi gofal.

Os ydych chi’n credu y byddai’ch cartref gofal yn elwa o’r gweithdai cARTrefu, a/neu gael un o’n hartistiaid i weithio gyda chi ar gynllun gweithgareddau, llenwch y ffurflen gais

Rydym hefyd yn cynnal gweithdai cARTrefu am ddim ledled Cymru ar gyfer artistiaid a gweithwyr creadigol sydd â diddordeb mewn dysgu am fodel cARTrefu a chyfle i rannu arfer gorau o weithio mewn cartrefi gofal, gan ganolbwyntio’n benodol ar gefnogi preswylwyr sy’n byw gyda dementia. Mae gennym nod hirdymor o feithrin gallu yn y sector celfyddydau ehangach i ymateb i anghenion y cartrefi gofal. Mae’r gweithdai hyn yn rhad ac am ddim, ac fe’u hysbysebir drwy ein sianelau cyfryngau cymdeithasol. Pan fydd gweithdy’n fyw, gallwch gofrestru i gymryd rhan drwy Eventbrite.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais