Cyfarfod â’r tim


 



Mae Alice Briggs yn artist, curadur ac addysgwr y celfyddydau sydd wedi arddangos ei gwaith yn y DU ac yn Ewrop. Ar hyn o bryd, hi yw curadur cynorthwyol Amgueddfa Ceredigion wedi ei lleoli yn Aberystwyth, ac mae ganddi brofiad mewn comisiynu a rheoli prosiectau celf gyhoeddus yn ei swyddi blaenorol fel Rheolwr Prosiect ar gyfer Cywaith Cymru; asiantaeth celf gyhoeddus Cymru, tiwtor y celfyddydau yn Ysgol Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth, a dehonglwr oriel Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae ei swyddi eraill wedi cynnwys hwylusydd y celfyddydau ar gyfer Haul Celfyddyd mewn Iechyd.

Graddiodd Alice Briggs o Goleg Celfyddydau Dartington mewn Perfformio Gweledol, ac aeth ymlaen i gwblhau ei MA mewn Astudiaethau Amgueddfa ac Oriel o Newcastle. Ers hynny, mae hi wedi sefydlu Blaengar – sefydliad celfyddydau newydd sydd wedi canolbwyntio ar waith penodol i leoliad a digwyddiadau creadigol cyhoeddus.

Mae gan Alice ddiddordeb cynyddol ym muddion adferol y celfyddydau creadigol yn y sector iechyd.  Mae ganddi brofiad o weithio o fewn llu o amgylcheddau gofal iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, adsefydlu ar ôl strôc a gyda phlant sy’n dioddef o afiechydon hirdymor ac anawsterau dysgu.

Mae Alice wedi’i lleoli yng Ngheredigion, ac wedi gweithio fel artist cARTrefu ers 2017. Alice is based in Ceredigion, and has worked as a cARTrefu artist since 2017.

Alice-Briggs

Mae Alison Moger yn artist gweledol ac addysgwr sefydlog, a gafodd ei magu yng nghymoedd De Cymru. Bydd ethos amgylcheddol ac ailgylchu wastad wrth galon ei gwaith. Graddiodd Alison yn 2005, ac ar hyn o bryd mae hi’n gweithio gyda chyfryngau cymysg, argraffu, a gwaith gwnïo. Mae Alison wedi ymrwymo i’r celfyddydau gweledol, ac yn chwarae rhan weithredol yn y maes, ac yn meddu ar sgiliau gwrando, goruchwylio a chyfathrebu da.

Mae ganddi’r gallu i ddeall a chydymdeimlo gyda phobl sy’n cael trafferth â sgiliau cyfathrebu, yn ogystal â gallu gweithio’n effeithiol drwy ddychymyg a chreadigrwydd, mewn modd hyblyg a defnyddiol. 

Mae Alison wedi’i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac wedi gweithio fel artist cARTrefu ers 2017. 

Alison-Moger

Wedi ei geni yn Huddersfield, astudiodd Beth Greenhalgh, Ymarfer yn Seiliedig ar Amser yn Ysgol Gelf a Dylunio, Caerdydd. Ar ôl graddio yn 2006, mae hi wedi parhau i arddangos a threfnu celf a digwyddiadau celf yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ei gwaith wedi ymddangos fel rhan o Experimentica Caerdydd, NRLA Glasgow, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Croatia: My Land Staglinec, yr Iseldiroedd: The Hague, Drag, Berlin: Black and Blue ac Estonia: Tallin Tartu Pernu, gŵyl a chyfnod preswyl Diverse Universe.

Mae hi wedi gweithio i sefydliadau celf fel Trace, Protoplay a hyd heddiw tactileBOSCH.

Mae ei gwaith yn defnyddio golygfeydd hynod esthetig i ysgogi defodau a delweddau rhyfedd sy’n cyfeirio at realiti chwedlonol yn seiliedig ar “ddiwylliant poblogaidd” ystumiedig.

Mae Beth wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, ac wedi gweithio fel artist cARTrefu ers 2017.

Beth-Greenhalgh

Mae Claire yn diwtor a dylunydd a gwneuthurwr tecstilau ymarferol, sy’n datblygu ei harfer gweithio ei hun yn barhaus, gan arbenigo mewn ffibrau naturiol, lliwiau planhigion a gwneud ffelt gydag ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd rydym yn eu hwynebu heddiw.  

Mae Claire wedi ennill profiad o weithio gydag anghenion addysgiadol gwahanol ac arbenigol, pobl gydag anableddau, cleifion cancr a phobl ifanc fregus, pobl hŷn a’r rheiny sy’n byw gyda dementia. Mae hi wedi gweithio mewn ystod o amgylcheddau o unedau diogel, ysbytai, hosbisau a chartrefi gofal. 

Mae Claire yn cael ei hysgogi gan heriau a chyfleoedd drwy gyfnod preswyl i artistiaid, gweithio dan gomisiwn, ac wedi arddangos ei gwaith yn genedlaethol a rhyngwladol.  Wedi cwblhau ystod o brosiectau artist preswyl yn llwyddiannus, o ddylunio, creu a hyrwyddo, mae ei gwaith wedi cael ei arddangos mewn orielau a llefydd cyhoeddus. 

Mae Claire wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, ac mae hi wedi gweithio fel artist cARTrefu yn ystod cam cyntaf 2015 – 2017, a dychwelodd ar gyfer y trydydd cam yn 2019.

Claire-Cawte

Mae Emma yn arlunydd gweledol cymunedol sy’n gweithio’n Ne Cymru. Mae hi’n cynnal gweithdai celf gydag amrywiaeth o grwpiau, yn cynnwys plant ac oedolion, yn arbennig y rheiny sydd ag anableddau dysgu. Mae ganddi gefndir mewn celf a dylunio y mae’n ei ddefnyddio i ysbrydoli ac annog pobl i fentro i greu eu gwaith eu hunain. 

Yn ei hymarfer ei hun mae’n mwynhau defnyddio gwrthrychau a gafwyd, yn eu plith nhw, eitemau wedi’u gadael ym myd natur, mewn sgipiau a siopau elusennol. Mae hi’n gweld potensial i greu ym mhopeth ac mae wrth ei bodd yn arbrofi gyda syniadau a dulliau newydd o weithio.

Mae Emma wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, ac mae hi wedi gweithio fel artist cARTrefu yn ystod cam cyntaf 2015 – 2017, rhan o’r ail gam 2018-2019, a dychwelodd ar gyfer y trydydd cam yn 2020. 

Emma-Prentice

Mae Jon yn Wneuthurwr Theatr a Cherddor sy’n canolbwyntio ar arfer creadigol cynhwysfawr. Mae wedi cael pleser o weithio gyda sefydliadau celfyddydol sy’n cael eu hystyried yn arweinwyr Cymru o fewn eu maes, yn cynnwys Theatr Hijinx, Theatr Cerdd Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (Theatr). Sefydlodd Jon y sefydliad celfyddydol COMMUSICATION (2012), a Fy Mwnciod i/Not My Monkeys (2015).

Gellir teimlo ffocws Jon ar gynhwysiant yn ei ymdrechion fel aelod bwrdd ASSITEJ UK a Chadeirydd Theatr i Gynulleidfaoedd Ifainc Cymru. Mae hefyd yn aelod bwrdd dros dro i International Inclusivity Arts Network (IIAN) a Hyrwyddwr Cenedlaethol Cymru. 

Mae Jon wedi’i leoli ger Cas-gwent, ac wedi bod yn aelod o dîm cARTrefu ers cychwyn y prosiect yn 2015. Mae Jon wedi parhau fel artist cARTrefu ar gyfer y trydydd cam, ar ôl bod yn artist yn y cam cyntaf a mentor yn yr ail gam. 

Jon-Dafydd-Kidd

Ar hyn o bryd mae Jon yn gweithio’n benodol gyda Delweddau Symudol a phaentio. Mae gan Jon ddiddordeb penodol mewn defnyddio cyfryngau “eraill” megis darlunio, cerflunwaith clai a gludwaith i greu ffilmiau. O ran thema, mae holl waith Jon yn eithaf personol, ac yn canolbwyntio ar ein straeon, atgofion a breuddwydion, ac yn aml mae’n archwilio’r rôl mae ‘lle’ yn ei chwarae o fewn hyn. 

Mae Jon wedi arddangos gwaith Darluniau Symudol mewn sawl gŵyl, yn cynnwys Gŵyl Alchemy Moving Image, Yr Alban, Gŵyl London Short Film yn ICA, Caerdydd G39 a Experiments in Cinema, Albuquerque.

Fel artist cARTrefu, mae Jon wedi gweithio gyda phreswylwyr i gynhyrchu pennau clai animeiddig, ffilmiau 16mm wedi’u creu â llaw a ‘ffilmiau gwrthrychau’ byw, yn ogystal ag archwilio ffroteisio, gwneud symudion a phaentio. 

Mae Jon wedi’i leoli ym Mro Morgannwg, ac wedi gweithio fel artist cARTrefu ers 2017.

Jon-Ratigan

Mae Laura wedi bod yn arlunydd ers 1999, ac yn dal BA Anrhydedd mewn Cerameg ac MA mewn Celfyddydau Cain o Goleg Celf Abertawe. Ar ôl graddio yn 1999, bu iddi greu oriel dros dro cyntaf Abertawe a sefydlu Applied Arts Un. Ltd, sefydliad celfyddydau cymunedol sydd wedi ymrwymo i annog balchder a chyfranogiad mewn celfyddydau gweledol yn Abertawe a thu hwnt. 

Mae Laura wedi gweithio gyda nifer o ysgolion, cartrefi preswyl, grwpiau cymunedol a sefydliadau, yn cynnwys: Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Cymunedau yn Gyntaf, DACE Abertawe, WCVA ac Urban Foundry. 

Yn ddiweddar, arddangosodd Laura ei gwaith ar gyfer cARTrefu yng Nghiwb cARTrefu yn Taliesin, Prifysgol Abertawe, ac yn Craft in The Bay, Caerdydd. 

Mae Laura wedi’i lleoli yn Abertawe, ac wedi gweithio fel artist cARTrefu ers 2017.

Laura-Reynolds

Mae Michal Iwanowski yn wreiddiol o Wlad Pwyl, ond bellach yn artist wedi’i leoli yng Nghaerdydd ac Pennaeth Addysg a Hyfforddiant yn Media Academy Cardiff. Astudiodd Ffotograffiaeth Ddogfen ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd, a graddio yn 2008. Mae ei waith yn archwilio’r berthynas rhwng tirlun a chof; gan nodi digwyddiadau unigolion a hanesion sydd fel arall yn ddibwys. 

Yn 2009, enillodd wobr Egin Ffotograffwyr gan Magenta Foundation, yn ogystal â derbyn Canmoliaeth yn Px3 Prix De Photographie, Paris. Derbyniodd Michal grantiau gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru ar gyfer ei brosiectau Clear of People a Fairy Fort Project, a chael cyfnod preswyl yn Kaunas yn 2012, wedi’i gefnogi gan Weinyddiaeth Ddiwylliannol Lithwania

Mae Michal wedi’i leoli yng Nghaerdydd, ac wedi bod yn aelod o dîm cARTrefu ers cychwyn y prosiect yn 2015. Mae Michal wedi parhau fel artist cARTrefu ar gyfer y trydydd cam, ar ôl bod yn artist yn y cam cyntaf a mentor yn yr ail gam. 

Michal-Iwanowski

Mae Penny Alexander yn artist gweledol Cymreig sydd wedi’i hysbrydoli gan bobl a’u bywydau.

Mae Penny yn defnyddio geiriau a theip i ddod o hyd i ffyrdd creadigol o rannu atgofion y bobl mae’n hi’n gweithio â nhw. Mae hi wrth ei bodd â theipiaduron. Mae gan Penny chwilfrydedd â phobl, ac mae hi wedi datblygu ei sgiliau drwy weithio mewn cartrefi gofal yn cwrdd â phreswylwyr, staff ac ymwelwyr i fwynhau sgyrsiau a chreadigrwydd.

Bu Penny’n astudio ym Mhrifysgol Salford gan ennill gradd BA (Hons) yn y Celfyddydau Gweledol.

Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel rhan o arddangosfeydd cystadleuol. Mae hi wedi gweithio mewn casgliadau parhaol yn Nhŷ Celf a Gwybodaeth Beaney ym Mhrifysgol Caint, ac yng Ngaleri Galaudet, Wisconsin, UDA. Mae ei llyfr artist “Mind Maps” wedi bod yn destun canolog mewn saith traethawd gan academyddion nodedig. 

Mae Penny wedi’i lleoli yn Sir Fflint, ac wedi gweithio fel artist cARTrefu ers 2017.

Penny-Alexander

Mae Susan Kingman yn wneuthurwr theatr a hwylusydd creadigol, gyda chefndir cryf mewn arfer cynhwysfawr a hyfforddi sgiliau cyfathrebu. Yn aml, mae ei gwaith creadigol yn deillio o straeon a safbwyntiau bywyd go iawn nas clywir amdanynt, gan ganolbwyntio ar dystebau a chyfweliadau person cyntaf.

Cychwynnodd Susan greu ei gwaith ei hun yn 2012, gyda fersiwn gynnar o’i drama ‘I’ll Be There, Now’, aeth ymlaen ar daith wedi’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, o amgylch De Cymru. Ers hynny, mae hi wedi datblygu nifer o brosiectau eraill mewn cydweithrediad ag artistiaid a chwmnïau eraill sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, ac wedi derbyn grantiau pellach gan Gyngor Celfyddydau Cymru. 

Sefydlodd Susan yr hwb cyntaf yng Nghymru ar gyfer rhwydwaith creadigol ac arlunio ar draws y DU, Mothers Who Make (trafodwyd yn ddiweddar ar Woman’s Hour ar Radio 4). 

Mae Susan wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, ac wedi gweithio fel artist cARTrefu ers 2017.

Susan-Kingman

Astudiodd Tara gwrs Darlunio yng Ngholeg Wrecsam a Choleg Celf a Dylunio Harrow. Wedi iddi ddychwelyd i Ddinbych, dechreuodd weithio gyda Craig Bragdy Design Ltd, cwmni gwneud Murluniau / Pyllau Ceramig wedi’i leoli yn y dref. Tra’n gweithio yno, datblygodd Tara ei phortffolio a chychwyn gweithio ar brosiectau cymunedol. Mae’r posibiliadau mae clai yn ei greu yn parhau i ddylanwadu ar ei gwaith hyd heddiw. Mae Tara yn mwynhau archwilio deunyddiau gwahanol drwy ddarlunio a gwneud printiau yn ei gweithdai, rhannu ei ffordd arbrofol o weithio a chanfod amgylcheddau newydd. Mae natur ei gwaith yn cefnogi profiad sy’n annog pawb yn y gymuned i archwilio bod yn rhan o Helfa Gelf gan stiwdios Agored, digwyddiad sy’n cael ei gynnal yn flynyddol yng Ngogledd Cymru. Derbyniodd Tara fentoriaeth gan brosiect Lost in Art yn Sir Ddinbych yn ystod 2011. Mae Tara’n parhau i weithio gyda Gwasanaeth Celfyddydau Sir Ddinbych, yn darparu gweithdai yn Y Rhyl a Phrestatyn, ac wedi creu prosiectau gydag Asiantaeth Strôc Bro Clwyd, MIND Bro Clwyd, Criw Celf, ysgolion a grwpiau cymunedol lleol yn Sir Ddinbych, Conwy a Sir Fflint a Wrecsam. 

Mae Tara wedi’i lleoli yn Sir Ddinbych, ac wedi gweithio fel artist cARTrefu ers 2017.

Tara-Dean

Mae Ticky yn Arlunydd Amlgyfrwng a hwylusydd gweithdai wedi’i lleoli yng Ngogledd Cymru. Caiff ei diddori gan focsys a gwrthrychau a’r straeon ac ymatebion maent yn eu creu. Mae hi ynghlwm â chydweithrediadau, cyfnodau preswyl, comisiynau ac yn rheoli prosiectau creadigol. 

Mae Ticky yn gweithio’n aml mewn ysgolion, cartrefi preswyl ac ysbytai gyda phobl o bob oed a gallu.

Mae hi wedi gweithio ar nifer o brosiectau creadigol gyda phobl sy’n byw â dementia yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn cynnwys adnoddau hel atgofion er defnydd staff gofal a nyrsio er mwyn iddynt allu uniaethu â chleifion yn yr ysbyty, a chyfnod preswyl tymor hir yn gweithio gyfochr â gweithiwr cymorth dementia.

Ar hyn o bryd mae Ticky yn rhoi’r cyffyrddiadau olaf i 12 casgliad hel atgofion fydd ar gael i’w benthyca gan gartrefi a grwpiau gofal yng Nghonwy drwy’r Hyb Diwylliannol newydd, a chyn bo hir bydd hi’n cychwyn ar waith mewn partneriaeth ag Amgueddfa 1950au Ymddiriedolaeth Cae Dai yn Ninbych i dreialu casgliad hel atgofion i’w ddefnyddio gan gartrefi a grwpiau gofal yn Ninbych.

Mae Ticky wedi’i lleoli yn Sir Ddinbych, ac mae hi wedi gweithio fel artist cARTrefu yn ystod cam cyntaf 2015 – 2017, a dychwelodd ar gyfer y trydydd cam yn 2019.

Ticky-Lowe

Roedd Sarah yn gweithio fel ffotograffydd stiwdio am saith mlynedd cyn ymuno â thîm cARTrefu. Mae Sarah wedi gweithio i Age Cymru ers mis Ebrill 2018 o fewn y gwasanaethau canolog, ond neidiodd at y cyfle i weithio ar y prosiect cARTrefu pan gododd y cyfle. Bu i Sarah gymryd awenau prosiect cARTrefu yn Ionawr 2019.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais