Cwcis

Darllenwch y polisi cwcis hwn (“polisi cwcis”, “polisi”) yn ofalus cyn defnyddio gwefan cARTrefu (“gwefan”, “gwasanaeth”) sy’n cael ei gweithredu gan Age Cymru (“ni”, “ninnau”, “ein”).

Beth yw cwcis?

Ffeiliau testun syml yw cwcis sydd wedi’u storio ar eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol gan weinydd gwefan. Mae pob cwci yn unigryw i’ch porwr gwe. Bydd yn cynnwys peth gwybodaeth ddienw megis dynodwr unigryw, enw parth gwefan, a rhai digidau a rhifau.

Pa fath o gwcis ydym ni’n eu defnyddio?

Cwcis angenrheidiol

Mae cwcis angenrheidiol yn ein caniatáu ni i gynnig y profiad gorau posibl i chi wrth i chi ddefnyddio ein gwefan, pori drwyddi a defnyddio ei swyddogaethau. Er enghraifft, mae’r cwcis hyn yn ein caniatáu ni i adnabod eich bod wedi creu cyfrif ac wedi mewngofnodi i’r cyfrif hwnnw.

Cwcis ymarferoldeb

Mae cwcis ymarferoldeb yn ein caniatáu i weithredu’r safle yn unol â’r penderfyniadau a wnewch. Er enghraifft, byddwn yn cydnabod eich enw defnyddiwr ac yn cofio sut wnaethoch addasu’r safle ar gyfer ymweliadau’r dyfodol.

Cwcis dadansoddol

Mae’r cwcis hyn yn ein galluogi ni a gwasanaethau trydydd parti i gasglu data cyfanredol at ddibenion ystadegol ynglŷn â sut mae ein hymwelwyr yn defnyddio’r wefan. Nid yw’r cwcis yn cynnwys gwybodaeth bersonol megis enwau a chyfeiriadau e-bost a chânt eu defnyddio i’n cynorthwyo ni i wella’ch profiad wrth ddefnyddio’r wefan.

Google Analytics

Mae Google Analytics yn gynnyrch sydd wedi ei ddarparu gan Google sy’n ein galluogi i fesur perfformiad y wefan cARTrefu yn ogystal â’r enillion ar fuddsoddiad o’n marchnata digidol, er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau ar gyfer ein cwsmeriaid

Darganfyddwch fwy ar y wefan Google

Cwcis trydydd parti eraill

FontAwesome. (https://fontawesome.com/privacy)
Polylang. (https://polylang.pro/privacy-policy/)
YouTube. (https://www.google.com/policies/technologies/types/)

Fforwm cARTrefu

Mae’r fforwm cARTrefu yn defnyddio cwcis er mwyn ein caniatáu i adnabod eich bod wedi creu cyfrif ac wedi mewngofnodi i’r cyfrif hwnnw.

Sut i ddileu cwcis?

Os hoffech gyfyngu neu atal y cwcis sy’n cael eu gosod gan ein gwefan, gallwch wneud hynny drwy osodiad eich porwr. Fel arall, gallwch fynd i www.internetcookies.org, sy’n cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr ynghylch sut i wneud hyn ar amrywiaeth eang o borwyr a dyfeisiau. Mae gwybodaeth gyffredinol ynghylch cwcis a manylion ynghylch sut i ddileu cwcis ar eich dyfais.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y polisi hwn neu ein defnydd o’r cwcis, cysylltwch â ni.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais