Gwerthuso

Dros y pedair blynedd gyntaf, roedd cARTrefu wedi cyflwyno 1840 o weithdai celf dwy awr mewn dros 25% o’r cartrefi gofal ledled Cymru. Mae Age Cymru wedi gallu cynnig y gweithdai hyn yn gyfan gwbl am ddim oherwydd cefnogaeth hael Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring.

Yn dilyn cam cyntaf cARTrefu cynhaliwyd gwerthusiad llawn gan Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru ym Mhrifysgol Bangor, i archwilio effaith y preswyliadau celf ar bawb dan sylw. Roedd y canfyddiadau fel a ganlyn:

Preswylwyr 

– Gwelliant ystadegol arwyddocaol mewn sgoriau llesiant ar ôl cymryd rhan mewn sesiynau cARTrefu.

– Roedd y preswylwyr o’r farn bod 86% o’r sesiynau yn bleserus iawn (4 neu 5 ar raddfa 5 pwynt).

– Effaith ehangach megis cymdeithasu mwy ac adennill sgiliau fel defnyddio cyllell a fforc.

Staff

– Gwelliant ystadegol arwyddocaol mewn agweddau tuag at breswylwyr, yn enwedig y rhai sy’n byw gyda dementia.

– Cynnydd ystadegol arwyddocaol mewn hyder i arwain sesiwn celfyddydau creadigol yn y cartref.

– Yn ystadegol fwy tebygol o chwilio am brofiadau diwylliannol cyfranogol neu i wylwyr (h.y. dosbarthiadau celf, ymweld ag oriel/theatr) y tu allan i’r gwaith.

Artistiaid

– Gwelliant ystadegol arwyddocaol mewn agweddau, gan gynnwys gobaith ac adnabyddiaeth o hunaniaeth tuag at breswylwyr.

– Datblygiad personol a datblygu sgiliau newydd.

Mae crynodeb o’r canfyddiadau a’r adroddiad llawn ar ein tudalen adnoddau. 

Er bod y gwerthusiad hwn o’r cam cyntaf yn cynnig tystiolaeth gref o effaith y rhaglen cARTrefu, teimlwyd y byddai dadansoddiad Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad yn cynnig tystiolaeth bellach ar y gwerth cymdeithasol a gynhyrchwyd drwy’r gweithgareddau hyn. 

Canfu’r dadansoddiad SROI, a gynhaliwyd gan Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru ym Mhrifysgol Bangor, fod cARTrefu wedi darparu Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad o £6.48 am bob punt a fuddsoddwyd.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais