Polisi preifatrwydd

Rydym wedi diweddaru’r polisi hwn i adlewyrchu newidiadau yn neddfau diogelu data. Daw’r polisi hwn i rym ar 25 Mai 2018.

Yn Age Cymru, rydym yn ymroddedig i ddiogelu a pharchu’ch preifatrwydd.

Mae’r polisi hwn yn egluro pryd a pham ydym yn casglu gwybodaeth bersonol yn eich cylch chi, sut ydym yn ei defnyddio, dan ba amodau y gallwn ei datgelu i eraill, sut ydym yn ei chadw’n ddiogel a’ch hawliau a phenderfyniadau mewn perthynas â’ch gwybodaeth.

Dylid anfon unrhyw gwestiwn ynghylch y polisi hwn a’n harferion preifatrwydd dros e-bost at webenquiries@agecymru.org.uk neu drwy ysgrifennu at y Rheolwr Cyfathrebiadau Digidol a Brand, Age Cymru, Llawr Gwaelod, Tŷ Mariners, Llys Trident, Heol East Moors, Caerdydd CF24 5TD. Fel arall, gallwch ffonio 029 2043 1555.

Pwy ydym ni?

Age Cymru ydym ni, y sefydliad cenedlaethol i bobl hŷn yng Nghymru.

Yn y polisi hwn, mae ‘Age Cymru’, ‘ni’, ‘ninnau’ neu ‘ein’ yn golygu:

  • Age Cymru, elusen gofrestredig (rhif 1128436) a chwmni cyfyngedig drwy warant (rhif 6837284). Y cyfeiriad cofrestredig yw Llawr Gwaelod, Tŷ Mariners, Llys Trident, Heol East Moors, Caerdydd, CF24 5TD.
  • Partneriaid Cenedlaethol Age Cymru (Age NI, Age Scotland ac Age UK). Rydym hefyd yn gweithio gyda changhennau lleol Age Cymru ledled Cymru.

Sut ydym ni’n casglu gwybodaeth gennych chi?

Rydym yn ceisio gwybodaeth yn eich cylch chi yn y ffyrdd canlynol:

Gwybodaeth a roddwch i ni yn uniongyrchol

Er enghraifft, gallem geisio gwybodaeth yn eich cylch chi wrth i chi gymryd rhan yn un o’n digwyddiadau, gwneud cyfraniad, chwarae Loteri Age UK, gwneud cais i wirfoddoli gyda ni, prynu cynhyrchion a gwasanaethau neu wrth i chi gofrestru i dderbyn ein cylchlythyrau misol.

Gwybodaeth a roddwch i ni yn anuniongyrchol

Gall eich gwybodaeth gael ei rhannu gyda ni gan drydydd parti, a all gynnwys:

  • trefnwyr digwyddiadau annibynnol, er enghraifft Marathon Llundain a safleoedd codi arian megis Just Giving;
  • codwyr arian proffesiynol; ac
  • isgontractwyr yn gweithredu ar ein rhan sy’n ein darparu ni â gwasanaethau technegol, taliad neu ddarpariaeth, ein partneriaid busnes, rhwydweithiau hysbysebu, darparwyr dadansoddeg a darparwyr gwybodaeth chwilio.

Dylech wirio unrhyw bolisi preifatrwydd a roddir i chi pryd bynnag y rhowch eich data i drydydd parti.

Pan ydych yn ymweld â’r wefan hon

Rydym ni, fel sawl cwmni, yn casglu’r wybodaeth ganlynol yn awtomatig:

  • gwybodaeth dechnegol, gan gynnwys y math o ddyfais yr ydych chi’n ei defnyddio, y cyfeiriad IP, y system bori a gweithredu yr ydych yn ei defnyddio i gysylltu’ch cyfrifiadur â’r rhyngrwyd. Gellir defnyddio’r wybodaeth hon i wella’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig.
  • gwybodaeth ynghylch eich ymweliad â’r safle, er enghraifft rydym yn casglu gwybodaeth ynghylch y tudalennau yr ydych yn ymweld â nhw a sut ydych yn defnyddio’r wefan, h.y. hyd ymweliadau â thudalennau penodol, cynhyrchion a gwasanaethau yr edrychoch arnynt ac y chwilioch amdanynt, ffynonellau atgyfeirio (e.e. sut gyrhaeddoch ein gwefan).

Rydym yn casglu a defnyddio’ch gwybodaeth bersonol gan ddefnyddio cwcis ar ein gwefan – mae rhagor o wybodaeth ynghylch cwcis ar gael yn yr adran ‘Defnydd o Gwcis’ isod.

Cyfryngau Cymdeithasol

Pan ydych yn rhyngweithio â ni ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol megis Facebook a Twitter, gallem geisio gwybodaeth yn eich cylch chi (er enghraifft, pan ydych yn ein tagio’n gyhoeddus mewn llun o ddigwyddiad). Bydd y wybodaeth a gawn yn dibynnu ar y dewisiadau preifatrwydd yr ydych chi wedi’u gwneud ar y mathau hynny o lwyfannau.

Gwybodaeth Gyhoeddus

Rydym yn ategu at wybodaeth ynglŷn â’n cefnogwyr gyda gwybodaeth o ffynonellau cyhoeddus megis adolygiadau blynyddol, gwefannau corfforaethol, cyfrifon cyhoeddus ar gyfryngau cymdeithasol, y gofrestr etholiadol a Thŷ’r Cwmnïau er mwyn creu dealltwriaeth lawnach o ddiddordebau a chefnogaeth unigolyn. Am ragor o wybodaeth, ewch i’r adran ‘Datblygu Proffiliau’ isod.

Pa fath o wybodaeth sy’n cael ei chasglu gennych chi?

Gall y wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu, storio a’i defnyddio gynnwys:

  • eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt (yn cynnwys cyfeiriad postio, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn);
  • eich dyddiad geni;
  • gwybodaeth ynghylch eich gweithgareddau ar ein gwefan a’r ddyfais a ddefnyddiwyd i’w defnyddio, er enghraifft eich cyfeiriad IP a lleoliad daearyddol;
  • manylion eich banc neu gerdyn credyd. Os ydych yn gwneud cyfraniad neu’n prynu rhywbeth ar-lein, nid ydym yn cadw gwybodaeth eich cerdyn, caiff honno ei chasglu gan ein proseswyr taliadau trydydd parti, sy’n arbenigo yn casglu a phrosesu trafodion cardiau credyd/debyd yn ddiogel ar-lein;
  • gwybodaeth ynghylch a ydych yn drethdalwr y DU fel y gallwn hawlio rhodd cymorth; ac
  • unrhyw wybodaeth bersonol arall a rennir gennym ni.

Mae deddfau diogelu data yn cydnabod categorïau penodol o wybodaeth bersonol yn wybodaeth sensitif ac felly maent yn gofyn rhagor o ddiogelwch, er enghraifft gwybodaeth ynghylch eich iechyd, ethnigrwydd a chrefydd.

Nid ydym fel arfer yn casglu data sensitif yn eich cylch oni bai bod rheswm clir a dilys dros wneud hynny ac mae deddfau diogelu data yn ein caniatáu i wneud hynny. Er enghraifft, gallwn ofyn am eich gwybodaeth iechyd os ydych yn cymryd rhan yn un o’n rhaglenni ymarfer corff.

Pryd bynnag sy’n briodol, byddwn yn datgan yn glir pam ein bod yn casglu’r math hwn o wybodaeth ac ar gyfer beth y bydd yn cael ei defnyddio.

Sut a pham mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?

Mae gennym yr hawl i ddefnyddio’ch gwybodaeth at sawl gwahanol ddiben, a all gynnwys:

  • eich darparu chi â’r gwasanaethau, cynhyrchion neu wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdanynt.
  • prosesu archebion yr ydych wedi’u cyflwyno;
  • cyflawni ein rhwymedigaethau dan unrhyw gontract sydd gennym rhyngom ni a chithau;
  • cadw cofnod o’ch perthynas gyda ni;
  • cynnal gwaith dadansoddi ac ymchwil i’r farchnad i ddatblygu dealltwriaeth well ynghylch sut allwn wella ein gwasanaethau, cynhyrchion neu wybodaeth;
  • gwirio am fanylion cyswllt wedi’u diweddaru yn erbyn unrhyw ffynhonnell trydydd parti fel y gallwn aros mewn cyswllt os ydych yn symud (gweler yr adran ‘Cadw’ch gwybodaeth yn gyfredol’ isod);
  • ymdrin ag ymgeiswyr cystadleuaeth;
  • ceisio eich safbwyntiau neu sylwadau ynghylch y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu;
  • eich hysbysu am newidiadau i’n gwasanaethau;
  • anfon gohebiaeth atoch yr ydych wedi gwneud cais amdani ac a all fod o ddiddordeb i chi. Gall hyn gynnwys gwybodaeth ynghylch ymgyrchoedd, apeliadau a gweithgareddau codi arian a hyrwyddo nwyddau a gwasanaethau; a
  • phrosesu ceisiadau am grantiau neu swyddi.

Pa mor hir y cedwir eich gwybodaeth?

Rydym yn cadw’ch gwybodaeth dim hirach nag sydd angen at y diben y cafodd ei chasglu. Pennir y cyfnod o amser yr ydym yn cadw’ch gwybodaeth bersonol gan ystyriaethau gweithredol a chyfreithiol. Er enghraifft, mae’n ofyniad cyfreithiol arnom i gadw rhai mathau o wybodaeth i gyflawni ein rhwymedigaethau statudol a rheoleiddio (e.e. dibenion iechyd/diogelwch a threth/cyfrifeg).

Rydym yn adolygu ein cyfnodau cadw yn rheolaidd.

Pwy sydd â mynediad at eich gwybodaeth?

Nid ydym yn gwerthu na rhentu’ch gwybodaeth i drydydd parti.

Nid ydym yn rhannu eich data gyda thrydydd parti at ddibenion marchnata.

Wedi dweud hynny, gallem ddatgelu’ch gwybodaeth i drydydd parti er mwyn cyflawni’r dibenion eraill a nodir yn y polisi hwn. Gall y trydydd parti hwn gynnwys:

Trydydd parti sy’n gweithio ar ein rhan

Mae gennym yr hawl i rannu’ch gwybodaeth gyda’n darparwyr gwasanaeth, cyflenwyr, asiantau, isgontractwyr a sefydliadau cysylltiedig trydydd parti eraill er mwyn cwblhau tasgau a darparu gwasanaethau i chi ar ein rhan (er enghraifft, prosesu rhoddion ac anfon negeseuon atoch). Serch hynny, pan ydym yn defnyddio trydydd parti, rydym yn datgelu’r wybodaeth bersonol sy’n berthnasol i ddarparu’r gwasanaethau yn unig ac mae gennym gontract sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gadw’ch gwybodaeth yn ddiogel ac yn ei atal rhag ei defnyddio at ei ddibenion marchnata uniongyrchol ei hun. Rydym yn sicrhau nad ydym yn rhyddhau’ch gwybodaeth i drydydd parti er mwyn iddo ei defnyddio at ei ddibenion marchnata uniongyrchol ei hun, oni bai eich bod wedi gofyn i ni wneud hynny, neu mae’n ofynnol i ni wneud hynny drwy’r gyfraith, er enghraifft, drwy orchymyn llys neu er mwyn atal achos o dwyll neu drosedd arall.

Darparwyr Cynhyrchion Trydydd Parti yr ydym yn gweithio gyda nhw

Mae ein darparwyr cynhyrchion trydydd parti dibynadwy yn darparu amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau o ansawdd a dibynadwy sydd wedi’u dylunio i fodloni anghenion pobl hŷn (e.e. Cynlluniau Angladdau Age Co ac Anymataliaeth Age Co). Pan fyddwch yn holi am y cynhyrchion hyn neu’n prynu un neu fwy ohonynt, bydd y darparwr cynnyrch trydydd parti perthnasol yn defnyddio’ch manylion i’ch darparu â gwybodaeth ac i gyflawni ei rwymedigaethau sy’n codi yn sgil unrhyw gontractau sydd gennych gydag ef. Bydd yn gweithredu fel cyd-reolwr eich gwybodaeth ac felly rydym yn eich cynghori i ddarllen ei Bolisi Preifatrwydd. Bydd y darparwyr cynhyrchion trydydd parti hyn yn rhannu’ch gwybodaeth gyda ni a byddwn yn ei defnyddio yn unol â’r polisi hwn.

Gallem drosglwyddo’ch gwybodaeth bersonol i drydydd parti fel rhan o werthiant o rai o’n busnes ac asedau, neu’r cwbl, i unrhyw drydydd parti neu fel rhan o unrhyw waith ailstrwythuro neu aildrefnu busnes, neu os oes dyletswydd arnom i ddatgelu neu rannu’ch data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol neu i orfodi neu gymhwyso ein telerau defnyddio neu i ddiogelu hawliau, eiddo neu ddiogelwch ein staff, cefnogwyr, cwsmeriaid, defnyddwyr y wefan neu eraill. Wedi dweud hynny, byddwn yn cymryd camau gyda’r nod o sicrhau bod eich hawliau preifatrwydd yn parhau i gael eu gwarchod.

Prosesu Cyfreithlon

Mae deddf diogelu data yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddibynnu ar un neu fwy o seiliau cyfreithiol dros brosesu’ch gwybodaeth bersonol. Rydym yn ystyried y seiliau canlynol yn rhai perthnasol:

Caniatâd penodol

Lle’r ydych wedi darparu caniatâd penodol i ni ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol mewn modd penodol, megis i anfon deunydd marchnata atoch dros e-bost, neges destun a/neu ffôn.

Cyflawni contract

Pan ydym yn dechrau contract gyda chi neu’n cyflawni ein rhwymedigaethau oddi tano, megis wrth i chi brynu cynhyrchion a gwasanaethau Age Co.

Rhwymedigaeth gyfreithiol

Lle bynnag sy’n hanfodol er mwyn i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddio yr ydym yn destun iddi, er enghraifft lle cawn orchymyn gan lys neu awdurdod rheoleiddio megis y Comisiwn Elusennau neu Reoleiddiwr Codi Arian.

Buddion hanfodol

Lle mae’n hanfodol i warchod bywyd neu iechyd (er enghraifft, yn achos argyfwng meddygol mewn perthynas ag unigolyn yn un o’n digwyddiadau) neu fater diogelu sy’n gofyn i ni rannu’ch gwybodaeth â’r gwasanaethau brys.

Buddiannau dilys

Lle mae’n rhesymol hanfodol i gyflawni ein buddiannau dilys neu fuddiannau dilys eraill (cyn belled â bod y wybodaeth yn cael ei defnyddio’n deg ac nad yw’n effeithio ar eich hawliau).

Rydym yn ystyried ein buddiannau dilys yn rhedeg Age Cymru fel sefydliad elusennol wrth ddilyn ein nodau a delfrydau. Er enghraifft:
• anfon gohebiaeth atoch drwy’r post yr ydym ni’n credu a fydd o ddiddordeb i chi;
• cynnal ymchwil i gael dealltwriaeth well o’n cefnogwyr a gwella perthnasedd ein hymdrechion codi arian;
• deall sut mae pobl yn dewis/defnyddio ein gwasanaethau a chynhyrchion;
• pennu effeithiolrwydd ein gwasanaethau, ymgyrchoedd hyrwyddol a hysbysebion;
• monitro gyda phwy ydym yn ymdrin â nhw i ddiogelu’r elusen rhag achosion o dwyll, gwyngalchu arian a risgiau eraill;
• atgyfnerthu, addasu, personoleiddio neu wella ein gwasanaethau/gohebiaeth fel arall er budd ein cwsmeriaid; a
• chael dealltwriaeth well o sut mae pobl yn rhyngweithio â’n gwefan.

Pan fyddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn gyfreithiol, rydym yn ystyried ac yn cydbwyso unrhyw effaith bosibl i chi (cadarnhaol yn ogystal â negyddol), a’ch hawliau dan ddeddfau diogelu data. Ni fyddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol lle caiff ein buddion eu sarnu gan yr effaith arnoch chi, er enghraifft, lle byddai’r defnydd yn ormodol fewnwthiol (oni bai ei bod yn ofynnol neu’n dderbyniol i ni wneud hynny drwy’r gyfraith, er enghraifft).

Pan fyddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol sensitif, rydym yn gofyn sail gyfreithiol ychwanegol i wneud hynny dan ddeddfau diogelu data, felly gwnawn hynny naill ai ar sail caniatâd penodol gennych chi neu lwybr arall sydd ar gael i ni drwy’r gyfraith (er enghraifft, os oes angen i ni ei phrosesu ar gyfer cyflogaeth, diogelwch cymdeithasol neu ddibenion gwarchodaeth gymdeithasol, eich buddiannau hanfodol neu, yn rhai achosion, os yw gwneud hynny er budd i’r cyhoedd).

Gohebiaeth ynghylch Codi Arian a Marchnata

Mae gennym hawl i ddefnyddio’ch manylion cyswllt i’ch darparu â gwybodaeth ynghylch y gwaith hanfodol a wnawn i bobl hŷn, ein hapeliadau codi arian a chyfleoedd i’n cefnogi, yn ogystal â’r cynhyrchion a’r gwasanaethau y gallwch eu prynu, os ydym yn credu y gall fod o ddiddordeb i chi.

E-bost / neges destun / Ffôn

Byddwn yn anfon gohebiaeth farchnata a chodi arian atoch dros e-bost, neges destun a’r ffôn dim ond os ydych wedi rhoi eich caniatâd penodol ymlaen llaw. Cewch optio allan o’n gohebiaeth farchnata ar unrhyw bryd drwy bwyso ar y ddolen ddad-danysgrifio ar waelod ein negeseuon e-bost marchnata.

Post

Mae’n bosibl y byddwn yn anfon gohebiaeth farchnata a chodi arian atoch chi drwy’r post oni bai eich bod wedi dweud wrthym y byddai’n well gennych beidio â chlywed gennym.

Eich dewisiadau

Chi sy’n dewis pa un ai a hoffech gael gwybodaeth gennym ai peidio. Os na hoffech gael gohebiaeth farchnata uniongyrchol gennym ni ynghylch y gwaith hanfodol a wnawn i bobl hŷn a’r cynhyrchion a gwasanaethau cyffrous y gallwch eu prynu, yna gallwch nodi’ch dewisiadau drwy roi tic yn y blychau perthnasol ar y ffurflen a ddefnyddir i gasglu’ch gwybodaeth.

Rydym yn ymroddedig i’ch rhoi chi mewn rheolaeth o’ch data, felly mae rhwydd hynt i chi newid eich dewisiadau marchnata (gan gynnwys dweud wrthym na hoffech i ni gysylltu â chi at ddibenion marchnata) ar unrhyw bryd drwy: unsubscribe@agecymru.org.uk neu dros y ffôn: 029 2043 1555, neu drwy’r post: Rheolwr Cyfathrebiadau Digidol a Brand, Age Cymru, Llawr Gwaelod, Tŷ Mariners, Llys Trident, Heol East Moors, Caerdydd, CF24 5TD.

Ni fyddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata os ydych wedi datgan nad ydych yn dymuno i ni gysylltu â chi a byddwn yn cadw’ch manylion ar restr atal i sicrhau nad ydym yn parhau i gysylltu â chi. Wedi dweud hynny, mae’n bosibl y bydd angen i ni gysylltu â chi at ddibenion gweinyddol, megis wrth i ni brosesu cyfraniad neu ddiolch i chi am gymryd rhan mewn digwyddiad.

Datblygu Proffiliau

Mae gennym yr hawl i ddadansoddi’ch gwybodaeth bersonol i greu proffil o’ch diddordebau a dewisiadau er mwyn i ni allu teilwra a thargedu ein gohebiaeth mewn modd amserol a pherthnasol i chi. Gallwn ddefnyddio gwybodaeth ychwanegol yn eich cylch pan mae hon ar gael gan ffynonellau allanol i’n cynorthwyo ni i wneud hyn yn effeithiol. Mae hyn yn ein caniatáu i ni gael ffocws mwy pendant, bod yn fwy effeithlon a chost effeithiol gyda’n hadnoddau a hefyd yn lleihau’r risg o rywun yn cael gwybodaeth y mae’n ei hystyried yn anaddas neu amherthnasol.

Rydym yn ymroddedig i’ch rhoi chi mewn rheolaeth o’ch data, felly mae rhwydd hynt i chi optio allan o’ch gwybodaeth yn cael ei defnyddio fel hyn ar unrhyw bryd drwy gysylltu â unsubscribe@agecymru.org.uk

Yn ogystal, gallem ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol i ganfod a lleihau twyll a risg credyd.

Eich Hawliau

Dan ddeddf diogelu data y DU, mae gennych hawliau penodol dros y wybodaeth bersonol sydd gennym yn eich cylch chi. Dyma grynodeb o’r hawliau yr ydym ni’n credu sy’n berthnasol:

Yr hawl i gael mynediad

Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael gweld y data personol sydd gennym yn eich cylch chi.

Yn ogystal, mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth yr ydym yn ei chadw yn eich cylch, a byddwn yn eich darparu â hwn oni bai bod eithriadau cyfreithiol yn berthnasol.

Os hoffech weld eich gwybodaeth, anfonwch ddisgrifiad o’r wybodaeth yr hoffech ei gweld a’ch prawf adnabod drwy’r post at y cyfeiriad isod.

Yr hawl i gywiro’ch gwybodaeth bersonol anghywir

Mae gennych yr hawl i gywiro gwybodaeth anghywir neu anghyflawn sydd gennym yn eich cylch. Mae cywirdeb eich gwybodaeth yn bwysig i ni felly rydym yn gweithio ar ffyrdd i’w gwneud yn haws i chi adolygu a chywiro’r wybodaeth sydd gennym yn eich cylch. Yn y cyfamser, os byddwch yn newid cyfeiriad e-bost, neu os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth arall yr ydym yn ei chadw yn anghywir neu wedi dyddio, cysylltwch â ni drwy e-bost neu’r post (gweler isod). Fel arall, gallwch ffonio 029 2043 1555.

Yr hawl i gyfyngu defnydd

Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu gwaith prosesu peth o’ch gwybodaeth bersonol neu’r cwbl os oes anghytundeb ynghylch ei chywirdeb, neu na chaniateir i ni ei defnyddio yn gyfreithlon.

Yr hawl i ddileu

Cewch ofyn i ni ddileu peth o’ch gwybodaeth bersonol neu’r cwbl ac yn rhai achosion, yn amodol ar eithriadau penodol; byddwn yn gwneud hynny cyn belled ag y mae’n ofynnol i ni ei wneud. Yn nifer o achosion, byddwn yn gwneud y wybodaeth honno’n ddienw, yn hytrach na’i dileu.

Yr hawl i’ch gwybodaeth bersonol fod yn gludadwy

Os ydym yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol (1) yn seiliedig ar eich caniatâd, neu er mwyn dechrau neu gynnal contract gyda chi, a (2) mae’r prosesu yn cael ei wneud yn awtomatig, cewch ofyn i ni ei darparu i chi neu ddarparwr gwasanaeth arall ar ffurf y gellir ei darllen gan beiriant.

Yr hawl i wrthwynebu

Os hoffech ddefnyddio unrhyw rai o’r hawliau hyn, anfonwch e-bost atom i unsubscribe@agecymru.org.uk neu ysgrifennwch at y Rheolwr Cyfathrebiadau Digidol a Brand, Age Cymru, Llawr Gwaelod, Tŷ Mariners, Llys Trident, Heol East Moors, Caerdydd, CF24 5TD. Mae’n bosibl y bydd yn ofynnol i ni ofyn am ragor o wybodaeth a/neu dystiolaeth o’ch hunaniaeth. Byddwn yn ymdrechu i ymateb yn llawn i bob cais cyn pen mis o’ch cais yn ein cyrraedd, ond os na allwn wneud hynny byddwn yn cysylltu â chi i roi rheswm dros yr oedi.

Noder bod eithriadau yn berthnasol i nifer o’r hawliau hyn, ac ni fydd pob hawl yn berthnasol dan bob amgylchiadau. Am ragor o fanylion, rydym yn eich argymell i daro golwg ar y canllawiau a gyhoeddwyd gan Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU.

Cadw’ch gwybodaeth yn ddiogel

Pan fyddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol i ni, rydym yn cymryd camau i sicrhau bod y rheolyddion technegol a chyfundrefnol yn cael eu sefydlu i’w diogelu.

Bydd unrhyw wybodaeth sensitif (megis manylion cerdyn credyd neu ddebyd) yn cael ei hamgryptio a’i diogelu gyda’r feddalwedd ganlynol: Amgryptiad 128 Bit ar SSL. Pan fyddwch ar dudalen ddiogel, bydd eicon clo yn dangos ar waelod porwyr gwe megis Microsoft Internet Explorer.

Caiff manylion nad ydynt yn sensitif (eich cyfeiriad e-bost etc.) eu trosglwyddo’n arferol dros y rhyngrwyd, ac ni ellir gwarantu bod hyn yn broses gyfan gwbl ddiogel. O ganlyniad, er ein bod yn ymdrechu i ddiogelu’ch gwybodaeth bersonol, ni allwn warantu diogelwch unrhyw wybodaeth yr ydych chi’n ei throsglwyddo i ni, ac rydych yn gwneud hynny ar eich menter eich hun. Unwaith y bydd eich gwybodaeth yn dod i’n llaw, gwnawn bob ymdrech i sicrhau ei bod yn ddiogel ar ein systemau. Lle’r ydym wedi cael (neu rydych chi wedi dewis) cyfrinair sy’n eich galluogi chi i gael mynediad at rannau penodol o’n gwefan, chi sy’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â rhannu’ch cyfrinair gydag unrhyw un.

Cadw’ch gwybodaeth yn gyfredol

Rydym yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod eich gwybodaeth yn gywir a chyfredol.

Lle bynnag sy’n bosibl, rydym yn defnyddio ffynonellau cyhoeddus i adnabod cofnodion anghyfredol neu ba un ai a ydych wedi newid eich cyfeiriad ai peidio.

Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech roi gwybod i ni os bydd eich manylion cyswllt yn newid.

Defnydd o ‘cwcis’

Fel nifer o wefannau eraill, mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Darnau bychain o wybodaeth yw ‘cwcis’ sy’n cael eu hanfon gan sefydliad i’ch cyfrifiadur a’u storio ar eich gyriant caled i ganiatáu’r wefan honno i’ch adnabod pan fyddwch yn ymweld â hi. Er enghraifft, rydym yn defnyddio cwcis i storio’ch dewis gwlad. Mae hyn yn ein cynorthwyo ni i roi gwasanaeth mwy personol wrth i chi bori ein gwefan ac mae’n gwella’n gwasanaethau.

Mae’n bosibl diffodd cwcis drwy osod eich dewisiadau porwr. Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i ddiffodd cwcis ar eich cyfrifiadur, ewch i’n polisi cwcis llawn. Gall diffodd cwcis arwain at golli ymarferoldeb wrth ddefnyddio ein gwefan.

Dolenni at wefannau eraill

Gall ein gwefan gynnwys dolenni at wefannau eraill sy’n cael eu rhedeg gan sefydliadau eraill. Dim ond i’n gwefan ni y mae’r polisi hwn yn berthnasol, felly rydym yn eich annog i ddarllen datganiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill yr ewch arnynt. Ni allwn fod yn gyfrifol am bolisïau preifatrwydd ac arferion gwefannau eraill hyd yn oes os ydych yn eu defnyddio drwy’r dolenni ar ein gwefan.

Yn ogystal, os ydych wedi cysylltu â’n gwefan o safle trydydd parti, ni allwn fod yn gyfrifol am bolisïau preifatrwydd ac arferion perchnogion a gweithredwyr y safle trydydd parti hwnnw ac rydym yn argymell eich bod yn gwirio polisi preifatrwydd y safle trydydd parti hwnnw.

16 oed neu Iau

Rydym yn gwarchod preifatrwydd plant 16 oed neu iau. Os ydych yn 16 oed neu iau, ceisiwch ganiatâd ymlaen llaw gan eich rhiant/gwarchodwr pryd bynnag y byddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol i ni.

Amgylchiadau bregus

Rydym yn ymroddedig i warchod cefnogwyr, cwsmeriaid a gwirfoddolwyr bregus, ac yn gwerthfawrogi y gall fod angen rhagor o ofal wrth i ni ddefnyddio eu gwybodaeth bersonol. I gydnabod hyn, rydym yn glynu wrth ganllawiau arfer dda yn ein bwriadau gyda phobl fregus.

Trosglwyddo’ch gwybodaeth y tu hwnt i Ewrop

Fel rhan o’r gwasanaethau a gynigir i chi drwy’r wefan hon, gall y wybodaeth yr ydych yn ei darparu i ni gael ei throsglwyddo i wledydd y tu hwnt i Ardal Economaidd Ewrop (“EEA”). Er enghraifft, gall hyn ddigwydd os bydd unrhyw un o’n gweinyddion yn cael eu lleoli mewn gwlad y tu hwnt i’r EEA o bryd i’w gilydd. Byddwch yn ymwybodol efallai nad oes gan y gwledydd hyn ddeddfau diogelu data cyffelyb i’r DU. Drwy gyflwyno’ch data personol, rydych yn cytuno i’r trosglwyddo, storio neu brosesu hwn. Os byddwn yn trosglwyddo’ch gwybodaeth y tu hwnt i’r EEA fel hyn, byddwn yn cymryd camau bod mesurau diogelwch priodol yn cael eu sefydlu gyda’r nod o sicrhau bod eich hawliau preifatrwydd yn parhau i gael eu gwarchod, fel yr amlinellir yn y polisi hwn.

Os byddwch yn defnyddio ein gwasanaethau tra eich bod y tu hwnt i’r EEA, mae’n bosibl y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu hwnt i’r EEA er mwyn eich darparu â’r gwasanaethau hynny.

Rydym yn ymgymryd ag arolygon rheolaidd o bwy sydd â mynediad at wybodaeth yr ydym yn ei chadw i sicrhau bod eich gwybodaeth yn hygyrch gan staff, gwirfoddolwyr a chontractwyr sydd wedi cael hyfforddiant priodol yn unig.

Recordio gwefan

Gall ein gwefan ddefnyddio gwasanaeth recordio gwefan SessionCam hefyd. Mae SessionCam yn gynnyrch sydd wedi’i ddatblygu gan ServiceTick Ltd. Gall SessionCam gofnodi cliciau’r llygoden, symudiadau’r llygoden, sgrolio tudalennau ac unrhyw destun a fwydir i ffurflenni gwefannau. Nid yw’r wybodaeth a gesglir yn cynnwys manylion banc neu unrhyw ddata personol sensitif. Mae’r data a gesglir gan SessionCam o’r wefan ServiceTick at ddefnydd mewnol Mentrau Age UK yn unig. Caiff y wybodaeth a gesglir ei defnyddio i wella defnyddioldeb ein gwefan a chaiff ei storio a’i defnyddio ar gyfer adroddiadau cyfanredol ac ystadegol.

Newidiadau i’r polisi hwn

Bydd unrhyw newidiadau y byddwn yn eu gwneud i’r polisi hwn yn y dyfodol yn cael eu rhannu ar y wefan hon, felly gwiriwch y dudalen hon o bryd i’w gilydd i sicrhau eich bod yn fodlon ag unrhyw newid. Os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol, byddwn yn hysbysu hyn yn glir ar ein gwefan.

Adolygiad o’r Polisi hwn

Rydym yn adolygu’r polisi hwn yn rheolaidd. Adolygwyd a diweddarwyd y polisi hwn ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2019.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais