Cardiau gweithgaredd

Cyflwyniad a chyfarwyddiadau

Gweithgareddau cARTrefu

Ers 2015, mae ein hartistiaid anhygoel wedi bod yn gweithio gyda chartrefi gofal ledled Cymru, ac yn parhau i wneud hynny. Erbyn cychwyn trydydd cam y rhaglen, a gychwynnodd ym mis Medi 2019, roedd mwy na 3,200 o breswylwyr a staff cartrefi gofal wedi cymryd rhan mewn sesiynau cARTrefu.

Mae ein hartistiaid wedi rhannu eu gwybodaeth a phrofiadau o ddarparu sesiynau creadigol i breswylwyr, ac wedi symleiddio rhai o’r gweithgareddau mwyaf llwyddiannus i’w rhannu gyda chi drwy’r llwyfan hwn.

Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich sesiynau gweithgareddau cARTrefu. Os hoffech rannu eich straeon, tagiwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol neu cysylltwch â cartrefu@agecymru.org.uk

Sut ydw i’n dod o hyd i’r gweithgaredd cywir?

Mae nifer o weithgareddau gwahanol i roi cynnig arnynt. Rydym wedi eu rhannu dros bum adran

Celfyddydau Gweledol – Celfyddydau Perfformio – Geiriau – Cerddoriaeth – Synhwyro

Ewch i gael cipolwg a rhowch gynnig arni.

Rydym wedi labelu’r gweithgareddau, felly byddwch yn gwybod os ydynt yn addas i

unigolyn neu grŵp

Mae pob gweithgaredd yn hawdd, ond efallai y bydd angen paratoi ar gyfer rhai. Rydym wedi labelu pob gweithgaredd o dan rhif un, dau neu dri; (1, 2 neu 3);

Mae un yn golygu eu bod y hawdd, ac mae tri’n golygu bod angen ychydig mwy o amser i baratoi.

Creu’r ardal gywir

Mae creu’r ardal gywir yn bwysig wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydau.

Mae pethau syml y gallech chi eu gwneud i greu’r amgylchedd cywir i breswylwyr hŷn deimlo’n gyfforddus a chreadigol:

  • Sicrhau bod y teledu wedi ei ddiffodd
  • Chwarae cerddoriaeth ysgafn i greu naws
  • Gwneud i’r grŵp eistedd mewn cylch neu o amgylch bwrdd os oes angen
  • I gychwyn sesiwn, ewch o amgylch y cylch a gofynnwch i bawb gyflwyno eu hunain. Mae’n bwysig fod y grŵp yn dod i adnabod ei gilydd
  • Anogwch aelodau teulu ac ymwelwyr i ymuno a chymryd rhan
  • Rhowch wybod i breswylwyr eu bod yn gallu mynd a dod fel yr hoffant. Does dim pwysau.

Arwain sesiwn greadigol

Mae’r cymhelliad i gymryd rhan mewn gweithgarwch pwrpasol ac ystyrlon yn natur sylfaenol ddynol. Fel pobl, mae pob un ohonom yn wahanol, gydag anghenion a diddordebau gwahanol, yn yr un modd â phreswylwyr mewn cartrefi gofal.

Mae creadigrwydd yn opsiwn agored i gartrefi gofal, ac mae’n caniatáu gweithwyr gofal i gynnig gweithgareddau sy’n amrywiol ac arloesol, yn darparu gofal sy’n canolbwyntio ar y person ac yn bodloni anghenion yr unigolion.

Mae gan bob un ohonom y ddawn i fod yn greadigol, ond rydym angen yr offer cywir i’w rhoi ar waith.

Mae’n rhaid i weithgareddau fod yn gynhwysfawr; mae’n rhaid i breswylwyr gymryd rhan, er mwyn rhoi cyfle i ryngweithio, sgwrsio a chreu cysylltiadau. Adeiladu cysylltiadau rhwng preswylwyr, cychwyn trafodaethau i adeiladu’r cyfeillgarwch hwn a dod yn rhan o’r gymuned.

Mae’r gweithgareddau hyn yn tynnu preswylwyr o’u cregyn, ac yn rhoi cyfle iddynt fynegi eu hunain, gan danio dychymyg ac atgofion.

Mae caniatáu i breswylwyr fod yn greadigol yn eu galluogi i gynnal diddordebau y gallent fod wedi’u cael yn y gorffennol neu ddatblygu sgiliau a diddordebau newydd.

  • Cyflwynwch y sesiynau drwy egluro beth rydych wedi ei gynllunio neu ddangos enghreifftiau
  • Cymerwch ran – peidiwch â dysgu’n unig – gwnewch eich gwaith celf eich hun
  • Byddwch y hyderus, mae hyn i fod yn hwyl i bawb
  • Cynigiwch gymorth lle bo angen, ond peidiwch â chymryd drosodd
  • Canwch glodydd a chynnig anogaeth.

Prif awgrymiadau artistiaid cARTrefu

  • Canolbwyntiwch ar gynnydd ac ansawdd ymgysylltu yn fwy na chanlyniadau
  • Does dim angen cywiro preswylwyr os nad ydynt yn cadw at gynllun, gadewch iddynt fod yn greadigol
  • Ewch gyda’r llif, rhannwch a gweithiwch gyda’ch gilydd
    Peidiwch â rhuthro’r gweithgaredd, gadewch i bethau ddigwydd yn naturiol
  • Peidiwch â chanolbwyntio ar y gair ‘celf’, mwynhewch y broses ac edrychwch ar bethau fel rhywbeth cyffrous i bawb
  • Siaradwch gyda’r preswylwyr am eu hobïau a diddordebau fel man cychwyn ar gyfer gweithdai i’r dyfodol
  • Treuliwch amser yn adeiladu cysylltiadau i ddeall pwy yw’r preswylwyr go iawn
  • Canolbwyntiwch ar bwy yw’r person nawr, nid pwy oeddynt o’r blaen. Mae pobl yn newid wrth fyw gyda Dementia.

Prif awgrymiadau’r staff

Gwnaethom ofyn i staff cartrefi gofal ledled Cymru rannu eu Prif Awgrymiadau gyda ni ar gynnal sesiynau creadigol gyda’u preswylwyr.

Y rhai mwyaf cyffredin oedd:

  • Gadewch i breswylwyr wylio arddangosfa yn gyntaf, yna anogwch nhw i gymryd rhan
  • Gadewch i breswylwyr weithio wrth eu pwysau
  • Y bore yw’r amser gorau i gynnal gweithgareddau creadigol fel arfer, gan fod gan breswylwyr fwy o egni
  • Cofiwch gael hwyl
  • Dechreuwch gyda phethau syml, a gadewch i’ch sesiwn ddatblygu
  • Ceisiwch gael dau aelod o staff mewn sesiwn. Mae’n gwneud pethau’n llawer haws
  • Sicrhewch naws gadarnhaol sy’n ysbrydoli’r preswylwyr i fod yn rhydd i fod yn greadigol
  • Mae cynnig cacen a phaned yn helpu i annog y bobl hynny sy’n fwy pryderus i ymuno yn y sesiwn.

Rhoi cynnig ar eich gweithgaredd eich hun

Os hoffech chi wneud gweithgaredd sydd ddim yn y pecyn hwn, gallwch bob amser roi cynnig ar un eich hun. Cofiwch:

  • Lluniwch gynllun 3 cam, fel bod yr hyn rydych am ei wneud yn glir yn eich meddwl
  • Casglwch bopeth y byddwch ei angen (offer, deunyddiau, cerddoriaeth) ymlaen llaw
  • Rhowch wybod i breswylwyr y byddwch yn cynnal gweithgaredd ymlaen llaw, er mwyn iddynt allu edrych ymlaen at gymryd rhan
  • Wrth ysgrifennu cerddi, gofynnwch gwestiynau agored i annog atebion personol ac ystyrlon
  • Os yw stori’n teimlo’n wir i breswyliwr, mae’n wir. Eu gwirionedd sy’n cyfrif bob amser
  • Mae ymateb creadigol preswyliwr wastad yn iawn. Mae anogaeth yn hyrwyddo hyder sy’n ysbrydoli creadigrwydd.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais