Cardiau gweithgaredd

shadow drawing
1

Lluniau cysgod

Dilyn yr haul neu ddefnyddio tortsh i greu lluniau ac yna patrymau. 

Pethau sydd eu hangen:

  • Papur
  • Pensiliau, pinnau ffelt, sialc neu olosg
  • Ffyn os ydych yn ymestyn cyrhaeddiad preswylwyr, gellir tapio pinnau/pensiliau i wneud cyfarpar dylunio hirach
  • Tortsh os nad oes golau haul, a gwrthrychau siâp diddorol neu ddwylo!

Canllaw Cam wrth Gam ar-lein

  1. Rhowch y papur ar y silff ffenestr neu ddarn mwy o bapur ar y llawr, dewch o hyd i ardal lle mae’r haul yn gryf neu defnyddiwch dortsh
  2. Tynnwch luniau o gwmpas y siapiau tywyll, mae siapiau planhigion yn gwneud coed gwych! Gan ddefnyddio pensil, pin ysgrifennu, creon, beth bynnag sy’n gyfforddus a rhwydd i breswylwyr ei ddefnyddio. Gall sialc wneud llanast ond ar ffurf pensil mae’n symud yn rhwydd ar y papur. Os ydych yn gweithio y tu allan, defnyddiwch sialc lliwgar i ddilyn cysgodion.
  3. Casglwch y dyluniadau ynghyd a gwnewch lungopi ohonynt
  4. Defnyddiwch y llungopïau i’w rhannu â phreswylwyr eraill a fyddai’n hoffi eu lliwio neu greu patrymau efallai.
  5. Gwnewch ddarn o waith mwy ar y cyd drwy ludo’r dyluniadau gyda’i gilydd i greu dyluniadau patrwm haniaethol. 

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:

Gellir gwneud y Lluniau Cysgod ar raddfa lai a’u dwyn ynghyd i greu collage i wneud darn mwy ar gyfer coridor neu ardal fwy mewn sesiwn arall ar gyfer pen-blwydd neu achlysur arall.

Neu rholiwch ddarn o bapur leinin mewn lolfa a gwahodd preswylwyr, teuluoedd a gofalwyr i weithio gyda’i gilydd gan ddefnyddio ffyn dylunio hirach o’u cadeiriau.

Os ydynt wedi’u llungopïo, gellir torri’r siapiau a grëwyd gan y lluniau i wneud ategolion i’w hongian gan greu symudion y gellir eu hongian mewn ffenestri a chreu mwy o siapiau a chysgodion os gludir nhw ar gerdyn.

Gallai ddod yn rhan o’r prosiect Big Draw ym mis Hydref a phrosiect rhyng-genedlaethol.

Adrodd straeon drwy siapiau ar daflen fawr, gan ddefnyddio golau i wneud cysgodion gyda thortsh

Addasrwydd

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai abl:

Drwy lungopïo’r lluniau, gall preswylwyr llai galluog gymryd rhan hefyd, efallai drwy osod y copïau a’u rhoi yn ôl at ei gilydd mewn amrywiaethau gwahanol, a chreu syniadau newydd ar gyfer patrymau neu syniadau lliwio. Rhannu dyluniadau a wnaethpwyd gan breswylwyr mwy abl neu gyfnewid dyluniad a gofyn iddynt barhau â’r llinell neu farc, gall unrhyw farc wneud cysylltiad i rywun arall ei ddilyn neu wneud rhywbeth gydag o.

Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall:

Mae’n addasu’n dda fel gweithgaredd i unigolyn ei wneud yn ei ystafell neu mewn grŵp. Gall grwpiau ac unigolion ddefnyddio deunyddiau eraill, yn cyd-weithio gyda thîm, un unigolyn yn gafael mewn tortsh ac un arall yn gwneud siâp neu’n dal rhywbeth i fyny, tra bod rhywun arall yn dylunio neu’n tynnu llun.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais