Cardiau gweithgaredd

Sound Work
3

Gwaith sain

Bydd angen paratoi ychydig ar gyfer y gweithgaredd hwn. Gan ddefnyddio dyfais recordio, Dictaffon neu recordiwr llais (fel yr un ar eich ffôn), casglwch synau i’w rhannu â grŵp neu unigolyn. Mae enghreifftiau yn cynnwys cân adar, y môr, cerddoriaeth mae preswylwyr yn ei mwynhau, rhannau o hen ffilmiau y byddai’r preswylwyr wedi’u gweld, ffeithiau hanesyddol o’r ardal leol neu straeon rhyfedd a rhyfeddol o’r ardal leol.

Mae’r gweithgaredd hwn yn ffordd wych o gael moment hiraethus ac archwilio’r llawenydd y byddai’r preswylwyr wedi’i gael ar adegau y tu allan i’r cartref. Mae’n caniatáu cyfle gwych i adrodd straeon, ysgogi atgofion a chanu neu ddyfynnu rhannau o’u hoff ffilmiau hyd yn oed. 

Mewn ystafell gan ddefnyddio seinydd, chwaraewch y momentau yr ydych wedi’u recordio a rhwng bob un, oedwch i gael straeon ac ymatebion gan breswylwyr. Eglurwch yr hoffech recordio paragraff, dyfyniad, cân neu effaith sain yn seiliedig ar ba atgofion a ddaeth i’r cof. 

Mae radio yn rhywbeth y bydd y preswylwyr yn gyfarwydd ag o. Defnyddiwch hwn fel enghraifft, gan awgrymu bod y recordiadau ar gyfer sioe radio. 

Gyda’r deunydd a gasglwyd, gallwch wneud eich rhaglen radio eich hun a rhannu gyda chyfranogwyr a phreswylwyr eraill yn y cartref. 

Mae’r gweithgaredd hwn yn benagored a gellir ychwanegu ato a’i ddatblygu dros sawl sesiwn.

Pethau sydd eu hangen:

  • Dyfais recordio (megis recordiwr llais ar ffôn) neu
  • Dictaffon
  • Seinydd (bydd bluetooth yn cysylltu â’r rhan fwyaf o ffonau neu bydd cebl phono i phono yn gweithio gystal)
  • hen DVDs a chryno ddisgiau
  • recordiadau sy’n ysbrydoli cynnwys
  • llechen neu liniadur i asio synau â ffurf (mae apiau ar rai ffonau sy’n gallu cyflawni hyn hefyd)
  • clustffonau i breswylwyr trwm eu clyw.

Canllaw Cam wrth Gam:

  1. Cyn y gweithgaredd, defnyddiwch ddyfais recordio i recordio synau a fydd yn ysbrydoli ymateb creadigol gan breswylwyr.
  2. Wrth wneud y gweithgaredd, awgrymwch yr hoffech rannu rhai recordiadau
  3. Chwaraewch un o’r recordiadau ac yna oedwch i gael ymatebion. Parhewch â’r patrwm hwn nes bod y recordiadau wedi dod i ben.
  4. Recordiwch ymatebion, ymatebion creadigol i’w hychwanegu at eich rhaglen radio eich hun
  5. Mwynhewch ac yna chwaraewch nhw yn ôl drwy seinyddion neu glustffonau.
  6. Gan fod hwn yn symudadwy, ewch â’ch sioe radio i breswylwyr eraill drwy’r cartref. Os hoffent rannu unrhyw beth, recordiwch hynny hefyd.

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:

Efallai recordiwch rannau o gerddoriaeth a berfformiwyd gan y preswylwyr a chreu alawon.

Digwyddiadau yn seiliedig ar thema, digwyddiadau ffilmiau neu gerddoriaeth, digwyddiadau hanesyddol. Gwisgo’n grand a dyfyniadau. Ffilmio neu recordio sain.

Addasrwydd

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai abl:

Weithiau gall clywed (gyda chlustffonau os oes eu hangen) hoff gân, digwyddiad hanesyddol neu ddyfyniad o ffilm ysbrydoli gwên, cysylltiad a stori.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais