Bydd angen paratoi ychydig ar gyfer y gweithgaredd hwn. Gan ddefnyddio dyfais recordio, Dictaffon neu recordiwr llais (fel yr un ar eich ffôn), casglwch synau i’w rhannu â grŵp neu unigolyn. Mae enghreifftiau yn cynnwys cân adar, y môr, cerddoriaeth mae preswylwyr yn ei mwynhau, rhannau o hen ffilmiau y byddai’r preswylwyr wedi’u gweld, ffeithiau hanesyddol o’r ardal leol neu straeon rhyfedd a rhyfeddol o’r ardal leol.
Mae’r gweithgaredd hwn yn ffordd wych o gael moment hiraethus ac archwilio’r llawenydd y byddai’r preswylwyr wedi’i gael ar adegau y tu allan i’r cartref. Mae’n caniatáu cyfle gwych i adrodd straeon, ysgogi atgofion a chanu neu ddyfynnu rhannau o’u hoff ffilmiau hyd yn oed.
Mewn ystafell gan ddefnyddio seinydd, chwaraewch y momentau yr ydych wedi’u recordio a rhwng bob un, oedwch i gael straeon ac ymatebion gan breswylwyr. Eglurwch yr hoffech recordio paragraff, dyfyniad, cân neu effaith sain yn seiliedig ar ba atgofion a ddaeth i’r cof.
Mae radio yn rhywbeth y bydd y preswylwyr yn gyfarwydd ag o. Defnyddiwch hwn fel enghraifft, gan awgrymu bod y recordiadau ar gyfer sioe radio.
Gyda’r deunydd a gasglwyd, gallwch wneud eich rhaglen radio eich hun a rhannu gyda chyfranogwyr a phreswylwyr eraill yn y cartref.
Mae’r gweithgaredd hwn yn benagored a gellir ychwanegu ato a’i ddatblygu dros sawl sesiwn.
Efallai recordiwch rannau o gerddoriaeth a berfformiwyd gan y preswylwyr a chreu alawon.
Digwyddiadau yn seiliedig ar thema, digwyddiadau ffilmiau neu gerddoriaeth, digwyddiadau hanesyddol. Gwisgo’n grand a dyfyniadau. Ffilmio neu recordio sain.
Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai abl:
Weithiau gall clywed (gyda chlustffonau os oes eu hangen) hoff gân, digwyddiad hanesyddol neu ddyfyniad o ffilm ysbrydoli gwên, cysylltiad a stori.