Cardiau gweithgaredd

concertina book
2

Ysgogi drwy ddelwedd, gwead, arogl

Awgrymwch wneud llyfr atgofion gyda’r preswylwyr a gofynnwch iddynt feddwl am yr hyn yr hoffent ei roi yn y llyfr, bydd hyn yn dechrau ysgogi diddordeb ac yn eu hannog i edrych o gwmpas eu hystafell wely am ddelweddau neu ofyn i deulu a chyfeillion i ddod â rhai i mewn. I breswylwyr sydd wedi colli eu golwg, anogwch nhw i siarad am weadau maent yn eu hoffi ac arogleuon sy’n dwyn atgofion iddynt. Gall eu caniatáu nhw i deimlo eu ffordd o gwmpas y papur, ac arogli’r olewau ysgogi sgwrs a synhwyrau. Yna gall y sawl sy’n cynnal y gweithgaredd, yn ôl gallu’r preswyliwr, arwain y preswyliwr drwy’r gweithgaredd, gellir rhoi pensil yn ei ddwylo a bydd gweadau’r ffabrig/cortyn/pren yn eu harwain i fynd â’r pensil am dro.

Gall y gweithgaredd fod yn seiliedig ar brofiadau a/neu atgofion preswylwyr, megis gwyliau’r gorffennol neu deithiau mae’r cartref wedi bod arnynt, neu gopïau o luniau priodasau/pen-blwyddi priodas/wyrion neu wyresau/rhyfel/gwaith, neu efallai beth allant ei weld/arogli o’r ffenestr honno ar y diwrnod penodol hwnnw. 

Pethau sydd eu hangen:

  • Papur dylunio trwchus neu gerdyn neu blastig, papur/cerdyn/ffoil â gwead.
  • Adnoddau dylunio, pensiliau dyfrlliw/pensiliau graffit 
  • Ffon glud
  • Ffabrig/cortyn/botymau/rhuban/pren fflat megis marcwyr planhigion neu ffyn lolipop
  • Olewau hanfod  

Canllaw Cam wrth Gam:

  1. Sicrhewch fod gennych hyd o bapur anystwyth y gallwch ei dapio ynghyd i’w wneud yn hirach os oes angen a’i blygu’n llyfr consertina gan ddefnyddio papur patrwm ar y tu blaen. 
  2. Gallwch roi darn o gerdyn patrwm ar y tu blaen a thu cefn y papur i sefydlogi a chryfhau’r llyfr, gadewch i’r preswyliwr ddewis pa bapur yr hoffai ei ddefnyddio.     
  3. Casglwch bopeth ynghyd, megis delweddau sy’n bersonol i’r unigolyn, papur gwead, ac olewau hanfod.
  4. Dechreuwch sgwrs gyda’r preswyliwr a’i annog i benderfynu pa ddelweddau a gweadau yr hoffai eu cynnwys yn y llyfr, a pha atgofion a chysylltiadau sydd ynghlwm â’r arogleuon / delweddau a gweadau hyn.
  5. Unwaith y bydd y preswyliwr wedi gwneud ei benderfyniadau, ac yn unol â gallu’r preswyliwr, anogwch neu helpwch ef i osod y gwrthrychau yn y llyfr gan eu gludo i’w lle.
  6. Unwaith y bydd hyn wedi’i gwblhau, a’r holl ddeunyddiau synhwyraidd a delweddau wedi’u glynu, Defnyddiwch binnau ysgrifennu/pensiliau neu inc i ddechrau mynd ar daith o gwmpas y delweddau gan annog preswylwyr i wneud marciau drwy ddilyn llif y delweddau a gweadau, nid oes ffordd gywir nac anghywir a gellir cyflawni canlyniadau cyffrous drwy annog agwedd gadarnhaol a magu hyder.  

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:

Gellir adeiladu themâu yn seiliedig ar hyn, megis dydd y cofio/Nadolig/gwanwyn, adeiladu atgof o ymweld â rhywle neu ffilm maent wedi’i gweld gyda’i gilydd.

Gellir agor y llyfr consertina a’i roi ar y wal i annog preswylwyr i wneud sylwadau ar lyfrau ei gilydd ac annog sgyrsiau. 

Addasrwydd

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai galluog:

Gellir addasu’r gweithdy i breswylwyr llai medrus drwy ddarparu siapiau symlach a lliwiau cryfach yn canolbwyntio ar batrwm/teimlad ac arogl, yna gall preswylwyr arwain staff y gweithgaredd neu’r ymwelydd at le’r hoffent i’r pensil fynd.

Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall: 

Mae’r gweithgaredd hwn yn addas am ryngweithiad mwy personol gydag unigolion gan gynnwys ymwelwyr a theulu neu sesiwn grŵp gyda nifer o ddeunyddiau yng nghanol y bwrdd i’r preswylwyr ddewis ohonynt, ac eto annog sgwrs a rhyngweithio cadarnhaol.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais