Awgrymwch wneud llyfr atgofion gyda’r preswylwyr a gofynnwch iddynt feddwl am yr hyn yr hoffent ei roi yn y llyfr, bydd hyn yn dechrau ysgogi diddordeb ac yn eu hannog i edrych o gwmpas eu hystafell wely am ddelweddau neu ofyn i deulu a chyfeillion i ddod â rhai i mewn. I breswylwyr sydd wedi colli eu golwg, anogwch nhw i siarad am weadau maent yn eu hoffi ac arogleuon sy’n dwyn atgofion iddynt. Gall eu caniatáu nhw i deimlo eu ffordd o gwmpas y papur, ac arogli’r olewau ysgogi sgwrs a synhwyrau. Yna gall y sawl sy’n cynnal y gweithgaredd, yn ôl gallu’r preswyliwr, arwain y preswyliwr drwy’r gweithgaredd, gellir rhoi pensil yn ei ddwylo a bydd gweadau’r ffabrig/cortyn/pren yn eu harwain i fynd â’r pensil am dro.
Gall y gweithgaredd fod yn seiliedig ar brofiadau a/neu atgofion preswylwyr, megis gwyliau’r gorffennol neu deithiau mae’r cartref wedi bod arnynt, neu gopïau o luniau priodasau/pen-blwyddi priodas/wyrion neu wyresau/rhyfel/gwaith, neu efallai beth allant ei weld/arogli o’r ffenestr honno ar y diwrnod penodol hwnnw.
Gellir adeiladu themâu yn seiliedig ar hyn, megis dydd y cofio/Nadolig/gwanwyn, adeiladu atgof o ymweld â rhywle neu ffilm maent wedi’i gweld gyda’i gilydd.
Gellir agor y llyfr consertina a’i roi ar y wal i annog preswylwyr i wneud sylwadau ar lyfrau ei gilydd ac annog sgyrsiau.
Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai galluog:
Gellir addasu’r gweithdy i breswylwyr llai medrus drwy ddarparu siapiau symlach a lliwiau cryfach yn canolbwyntio ar batrwm/teimlad ac arogl, yna gall preswylwyr arwain staff y gweithgaredd neu’r ymwelydd at le’r hoffent i’r pensil fynd.
Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall:
Mae’r gweithgaredd hwn yn addas am ryngweithiad mwy personol gydag unigolion gan gynnwys ymwelwyr a theulu neu sesiwn grŵp gyda nifer o ddeunyddiau yng nghanol y bwrdd i’r preswylwyr ddewis ohonynt, ac eto annog sgwrs a rhyngweithio cadarnhaol.