Cardiau gweithgaredd

the bigger picture
2

Y darlun ehangach

Er mwyn sbarduno’r dychymyg a defnyddio hiwmor, rhoddir taflen o bapur A4 neu A3 gwag i gyfranogwyr, gyda llun wedi’i ludo yng nghanol y dudalen wag. Gall y ffotograff fod yn bortread o un o’r preswylwyr, er enghraifft, (o’r archif neu gyfredol) neu unrhyw ddelwedd o gylchgrawn sy’n diddori’r cyfranogwr ac mae’n ei fwynhau. Eu tasg yw defnyddio pinnau ysgrifennu/brwshys/marcwyr/pensiliau i ehangu’r ddelwedd i’r lle gwag, cwblhau’r llun drwy ehangu ei linellau a’i elfennau, yn unol â’u dychymyg, yr holl ffordd i ymylon y papur gwag. Gellir rhoi briff i breswylwyr ei ddilyn, er mwyn gwneud y dasg yn haws. Er enghraifft, “Gan ddefnyddio portread o Julie, cwblhewch y ddelwedd a chrëwch olygfa lle mae Beryl yn perfformio mewn syrcas.”

Pethau sydd eu hangen:

  • Lluniau neu ddelweddau o gylchgrawn
  • Papur A4 neu A3 gwag
  • Glud
  • Detholiad o Bensiliau, Pinnau Ysgrifennu Lliwgar, Marcwyr, Paent neu ddeunyddiau eraill sy’n addas i farcio papur

Canllaw Cam wrth Gam:

  1. Gofynnwch i’r cyfranogwyr ddewis delwedd yr hoffent ei hehangu
  2. Trafodwch pam eu bod wedi dewis y ddelwedd honno a pha syniad am addasiad anturus sydd ganddynt mewn golwg ar ei chyfer
  3. Gofynnwch i’r cyfranogwyr ludo’r ddelwedd ar y daflen wag (nhw sy’n dewis lle fydd y ddelwedd ar y papur yn ôl y ddelwedd derfynol sydd ganddynt mewn golwg)   
  4. Cyfranogwyr i ddefnyddio offer dylunio/peintio i wneud estyniad o’r ddelwedd. Cânt fod mor greadigol ag y dymunent ac anogir hwy i ddefnyddio unrhyw ddeunyddiau maent yn credu sy’n weledol ddiddorol
  5. Cyfranogwyr i rannu eu delweddau gorffenedig mewn arddangosfa yn y fan a’r lle ar ôl y sesiwn ac yn gofyn i’w cyfoedion roi teitl ar eu gwaith.

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:

Gellir cynnal y gweithgaredd hwn dros amser i greu calendr, er enghraifft. Gellir ei ymestyn i gynnwys aelodau o staff fel ffordd o ddathlu. Mae’n anrheg dda i aelod o staff neu aelod o’r teulu. Gellir arddangos y delweddau hyn mewn ardaloedd cyffredin neu ar ddrysau preifat cyfranogwyr, etc.

Mae potensial enfawr am hiwmor i’r gweithgaredd hwn.

Addasrwydd

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai galluog:

Gellir cynnig cefnogaeth drwy gynorthwyo i arwain yr offeryn dylunio, neu drwy gynnig pinnau ysgrifennu/pensiliau/brwshys mwy. Disgrifiwch y llun os oes angen a gofynnwch beth mae’r preswyliwr yn dychmygu sy’n digwydd y tu hwnt iddo. 

Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall: 

Gall unigolion a grwpiau fwynhau’r gweithgaredd hwn yn rhwydd.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais