Cardiau gweithgaredd

1

Tynnu lluniau i gerddoriaeth

Gweithgaredd tynnu lluniau a pheintio dychmygus a mynegiannol gan ddefnyddio cerddoriaeth â thema neu fathau o gerddoriaeth y mae’n hawdd eu hadnabod gyda churiad cryf, bywiog, sydd efallai yn dwyn i gof atgofion am lefydd pell. Gwrandewch ar gerddoriaeth o’ch dewis a siaradwch gyda’ch gilydd am y pethau mae’r gerddoriaeth yn gwneud i chi feddwl amdanynt, megis pobl, llefydd, lliwiau a’r hinsawdd, parhewch i wrando a dechreuwch wneud marciau gyda’ch gilydd, gan gyflwyno lliw wrth i chi fynd!

Mae cerddoriaeth Giwbaidd, Lladin, Jas, Clasurol a Phres yn gweithio’n dda hefyd.

Themâu: Gwyliau/teithiau/ffilmiau/anturiaethau

Pethau sydd eu hangen:

  • Ffynhonnell gerddoriaeth 
  • Papur cryf – un darn fesul unigolyn
  • Pensiliau tywyll, meddal – mae 4b i 8b yn gweithio’n dda gan eu bod yn gwneud marciau cryf yn rhwydd 
  • Pensiliau dyfrlliw – am eu lliwiau bywiog, cryf, hyfryd

Canllaw Cam wrth Gam:

  1. Siaradwch â’ch preswylwyr ynghylch y gwahanol fathau ac arddulliau o gerddoriaeth o bob cwr o’r byd a thrwy’r degawdau, siaradwch am y siapiau a’r lliwiau gall y synau wneud i chi feddwl amdanynt.
  2. Dewiswch ba gerddoriaeth i’w defnyddio a rhannwch y papur a’r pensiliau.
  3. Rhowch y gerddoriaeth ymlaen a siaradwch amdani wrth i chi wrando – efallai ceisiwch greu dyluniad newydd ar gyfer arddulliau cerddoriaeth gwahanol.
  4. Siaradwch am siâp y sain – pa liw neu siâp ydyw? A allai’r rhythm fod yn batrwm?
  5. Gwnewch farciau ar y dudalen, yn rhydd ac yn unol ag amseriad y gerddoriaeth. 
  6. Cymerwch seibiant i edrych ar y delweddau, siapiau a phatrymau yr ydych wedi’u creu. Gofynnwch i rywun y tu allan i’ch sesiwn a allant ddyfalu pa fath o gerddoriaeth yr oeddech chi’n gwrando arni wrth dynnu llun!

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:

Defnyddiwch ddŵr a brwshys i chwarae â lliwiau’r pensiliau dyfrlliw a rhoi bywyd iddynt, a gweld sut maent yn cyfuno fel paent!

Gallech hefyd ddefnyddio’r delweddau sydd wedi’u creu fel papur collage er mwyn creu golygfeydd, cardiau collage neu labeli anrhegion.

Addasrwydd

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai galluog:

Efallai yr hoffai preswylwyr sy’n drwm eu clyw eistedd agosaf at y seinydd i deimlo dirgryniad rhythm y gerddoriaeth. Yn yr un modd â’r gerddoriaeth, gellir defnyddio arolygon bwyd sy’n gysylltiedig â gwahanol rannau o’r byd er mwyn ysgogi’r synhwyrau, ac ysbrydoli siapiau a lliwiau. Fel arall, gellir hefyd defnyddio fideos o ddawnsfeydd sy’n gysylltiedig â gwahanol ddiwylliannau er mwyn ysbrydoli defnyddio lliwiau a siapiau yn wahanol. 

Gall defnyddio paent yn hytrach na phensiliau roi mwy o ryddid i fynegi, gan ddefnyddio taflenni mwy o bapur.

Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall: 

Gan ddefnyddio rholyn hir o bapur, gallai hwn ddod yn weithgaredd grŵp, neu gallai dorri delweddau unigol o bob taflen i wneud golygfa gyfrannol, fwy fod yn hynod ddifyr!

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais