Cardiau gweithgaredd

holidays
1

Trin gwrthrychau i ddwyn atgofion

Yn aml, gall trin gwrthrychau bob dydd a’r mwyaf domestig fod yn fwyaf effeithiol i ysgogi atgofion, dechrau sgyrsiau a dysgu mwy am fywydau a phersonoliaethau eich preswylwyr.

Y gwrthrychau mwyaf effeithiol yw’r rheiny sy’n gwneud rhywbeth neu sy’n gofyn gweithred – chwisg wy neu degan weindio, blwch tun gyda chaead, sebon.

Neu bethau fel botymau y gellir eu trefnu a’u harchwilio, neu deganau fel marblis neu dop troi.

Yn ogystal, gallant fod yn fan cychwn sesiynau creadigol o bob math unwaith y dewch i wybod beth mae eich preswylwyr yn ymateb iddo.

Pethau sydd eu hangen:

  • Casglwch wrthrychau domestig
  • Dyma rai syniadau am bethau sy’n hawdd cael gafael arnynt
  • Chwisg wy, hen flwch tun, peipen, sebon Pears, bwrdd menyn pren, brws glanhau pren, llwy bren, llwy de arian, deunydd i roi sglein ar arian, tun o sglein du ar gyfer esgidiau, tâp mesur gwneud ffrogiau hen ffasiwn, sialc a phapur du.
  • Ar gyfer sesiwn fwy synhwyraidd, gallai eich gwrthrychau fod yn berlysiau megis lafant a rhosmari wedi’u casglu o ardd rhywun a pherlysiau byw mewn potiau megis persli a saets o archfarchnad leol.
  • Gallech ddod â blodau gwylltion wedi’u casglu gan staff i mewn
  • Cregyn a cherrig mân ar gyfer sesiwn dwyn atgofion yn seiliedig ar thema’r traeth ynghyd â phêl ysgafn a melin wynt efallai.
  • Mae moch coed a dail yr hydref yn wych ar gyfer sesiwn hydrefol 

Canllaw Cam wrth Gam:

  1. Casglwch eich gwrthrychau dwyn atgofion a’u gosod mewn bag, blwch neu gês difyr ar gyfer y sesiwn a fydd yn peri chwilfrydedd ymhlith eich preswylwyr ac yn ychwanegu at y disgwyliad.
  2. Os oes gennych fynediad at iPad a wi-fi, gellir defnyddio’r rhain i chwilio am ganeuon, alawon, brandiau, gwneuthuriad, gweithleoedd os cânt eu crybwyll a bydd hynny’n ychwanegu dimensiwn arall at eich sesiwn.
  3. Newidiwch yr amgylchedd, diffoddwch y teledu a cheisiwch â defnyddio ardal lle nad oes unrhyw beth i dynnu sylw neu sgyrsiau eraill yn digwydd
  4. Os yn bosibl, gofynnwch i’ch preswylwyr eistedd o gwmpas bwrdd ar gyfer y sesiwn dwyn atgofion. Mae wyth preswyliwr yn nifer dda. Serch hynny, mae’n bosibl cynnal y sesiwn yn y lolfa gyda mwy o bobl – yn enwedig os yw staff eraill yn cymryd rhan hefyd – gallwch hefyd ei haddasu’n sesiwn un i un.
  5. Os ydych yn gweithio gyda grŵp o breswylwyr, pasiwch un gwrthrych o gwmpas gan roi digon o amser iddynt ei drin ac efallai ei arogli, cewch ddechrau gyda chi eich hun a gofyn cwestiwn syml – beth fyddai defnyddiau’r sebon hwn?
  6. Neu a oedd gennych chi un o’r rhain gartref?
    Ceisiwch beidio â gofyn cwestiynau y gellir eu hateb gydag ‘ia’ neu ‘na’.
    Gofynnwch gwestiynau agored a fydd yn annog sgwrs
    Chwaraewch rôl yr unigolyn sydd ddim yn gwybod, hyd yn oed os ydych chi’n gwybod go iawn.
    Dywedwch bethau fel: ‘Tybed beth yw hwn?’
    Gofynnwch: ‘A ydych chi erioed wedi gweld un o’r rhain?’
    Ac: ‘A ydych chi’n gwybod sut mae hwn yn gweithio?’
    Neu ‘Beth am i ni weld beth mae hwn yn ei wneud?’
    Gall rhannu eich atgofion eich hun ddechrau trafodaeth.
  7. Rhowch amser a lle i bob preswyliwr ddweud rhywbeth am bob eitem wrth i chi ei rhannu
    Gwrandewch ar eu hatgofion, recordiwch nhw neu eu nodi os oes gennych gyfle – gyda chaniatâd y preswyliwr.
    Weithiau mae atgofion yn gysylltiedig ag alaw – os oes gennych fynediad at iPad neu lechen, gallech chwilio’n sydyn am y gân ar YouTube neu beth bynnag y gallwch ei ddefnyddio, parhewch â’r gân os bydd rhywun yn dechrau canu neu fwmian alaw.
    Does dim gwahaniaeth os nad yw’r atgofion yn ymwneud â’r gwrthrychau, eu pwrpas yw ysgogi.
    Byddwch yn ymwybodol y gall rhai gwrthrychau ysgogi atgofion trist hefyd, felly byddwch yn sensitif i hyn a rhowch amser i breswylwyr neu stopio os yw hynny’n angenrheidiol.

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:

Yn aml mae sesiynau dwyn atgofion yn arwain at ddod i ddysgu mwy am eich preswylwyr a beth maent yn mwynhau eu gwneud a gallant gyflwyno syniadau newydd ar gyfer sesiynau creadigol pellach.

Rhai enghreifftiau – 

Bu i breswylwyr a oedd yn trin llwyau arian ddechrau dwyn atgofion am roi sglein ar yr arian bob wythnos yn blant – felly cawsom sesiwn yn rhoi sglein ar lwyau arian gyda’n gilydd a gwnaeth hynny i’r grŵp ymlacio a siarad.

Gwnaethom nodyn o rai o’u hatgofion yn y sesiwn sglein.

Yn dilyn hyn, gwnaethom dynnu llun o gwmpas llwyau a thynnu lluniau o lwyau ac ychwanegu eu hatgofion i greu gwaith celf.

Mewn sesiwn yn trin ac arogli perlysiau o’r ardd, sylweddolais faint mae rhai o’r preswylwyr yn ei wybod am nodweddion meddyginiaethol perlysiau – gallai cam nesaf fod yn cofnodi eu gwybodaeth drwy wneud llyfr nodiadau gyda pherlysiau gwasgedig, tynnu lluniau, paentiadau ac ysgrifennu a allai fod yn weithgaredd parhaus.

Efallai y bydd rilen gotwm hen ffasiwn yn atgoffa rhywun eu bod yn arfer gwneud dol wau Ffrengig, neu “knitting Nancy”, o rilen gotwm drwy forthwylio 4 brasbwyth i’r pen – gallai hyn arwain atoch yn dod â dol wau a rhai peli gwlân i mewn a gofyn a all unrhyw un ddangos i chi sut mae eu defnyddio. A chynnwys pawb drwy gynorthwyo i ddal neu drefnu’r gwlân, gwau gyda’i gilydd neu ddadwneud rhai pwythau gwael a’r holl sgwrsio ac ymgysylltu sydd ynghlwm â sesiwn greadigol.

Addasrwydd

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai abl:

Mae sesiynau dwyn atgofion yn ymwneud â chyfathrebu a gall rhannu gwrthrychau fod yn ffordd o gyfathrebu heb yr angen am sgwrs, rhannu arogl rhywbeth, dangos i chi beth sydd y tu mewn, cofio alaw i’w mwmian gyda’ch gilydd a theimlo’n rhan o grŵp, gan gymryd rhan mewn profiad cyfrannol.

Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall: 

Gall rhoi gwrthrych diddorol i rywun ei drin fod yn ffordd dda o dynnu ei sylw os yw’r unigolyn yn bryderus a gall defnyddio a rhannu detholiad o wrthrychau i gyfathrebu gyda rhywun sy’n byw gyda dementia fod yn ffordd o dawelu meddwl.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais