Cardiau gweithgaredd

Order & Chaos
2

Trefn ac anhrefn!

Ysbrydolwyd y gweithgaredd hwn gan gysur trefn arferol. Momentau ar wahân yn creu’r cyfan. Rhai creadigol, rhai cyffredin, rhai hwyliog, rhai tawel, y cwbl yn ymwneud â gwerthfawrogi ailadroddiad a chynefindra.

Pethau sydd eu hangen:

  • Papur A1
  • Paent acrylig (amrywiaeth o liwiau)
  • Brwshys
  • Dŵr (ar gyfer y brwshys)
  • Pastelau cwyr neu olew (opsiynol)
  • Cwpanau papur gwag (neu unrhyw beth siâp cylch)
  • Siswrn
  • Glud Pritt Stick
  • Lamineiddiwr a chodenni
  • Torrwr Tyllau
  • Llinyn (dewisol)
  • Cerddoriaeth, opsiynol

Canllaw Cam wrth Gam:

  1. Dechreuwch drwy fwynhau gwneud marciau gan ddefnyddio’r paent (amrywiaeth o liwiau) a’r pastelau cwyr neu olew ar y papur A1. Os ydych yn defnyddio cerddoriaeth, meddyliwch sut gall y synau gwahanol ysbrydoli marciau gwahanol. Peidiwch â phoeni sut mae’n edrych, ewch ati a cheisio llenwi’r dudalen. I gyflawni hyn, ymestynnwch eich braich i gyrraedd y corneli, neu parhewch i droi’r papur. (Cewch ailadrodd y cam hwn gymaint ag yr hoffech, gorau po fwyaf!) Mae haenu paent a marciau yn gwneud darnau mwy diddorol.
  2. Gadewch y paentiadau i sychu ac yna, gan ddefnyddio templed siâp cylch (mae cwpanau papur gwag yn haws i’w gafael), tynnwch lun o gwmpas y cwpan a llenwch bob paentiad â chylchoedd. Ceisiwch beidio â gwneud i’r cylchoedd orgyffwrdd.
  3. Torrwch y cylchoedd. Awgrym: torrwch y cylchoedd yn stribedi bras fel bod maint y papur yn llawer llai.
  4. Gan ddefnyddio smotyn o’r glud, gludwch ddau smotyn gyda’i gilydd gefn yn gefn, fel y gallwch weld paent ar y naill ochr.
  5. Lamineiddiwch y smotiau
  6. Torrwch y smotiau lliwgar a gwnewch dwll ar frig bob un.
  7. Clymwch y smotiau gyda’i gilydd, i’w hongian yn y ffenestr, neu gludwch nhw ar gynfas ar gyfer darn gwreiddiol o gelf fodern!

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:

Gallech lynu llinynnau’r smotiau i gylch a gwneud symudyn, neu ruban smotiog.

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai abl:

Oherwydd bod y paentiad yn gwbl fynegiannol, gallwch leihau maint y papur er mwyn ei gwneud hi’n haws i bob preswyliwr ei wneud. Gall pawb fwynhau’r symudyn terfynol, yn enwedig os yw yn y ffenestr ac yn gallu symud yn yr awel.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais