Cardiau gweithgaredd

Outdoor walks and wordplay
3

Teithiau cerdded awyr agored a chwarae ar eiriau

Wedi’i ddylunio i annog awyr iach a rhoi newid golygfa, gan ysgogi atgofion a chreadigrwydd drwy chwarae ar eiriau. 

Pethau sydd eu hangen:

  • Cyfres o gwestiynau i’w gofyn ynghylch garddio, tirlun, tywydd h.y.
  • Tymhorau – am beth mae’r gwanwyn yn eich atgoffa? Pwyntiwch at flodau a gofynnwch pa un yw eu hoff rai
  • A oes gardd berlysiau yn yr ardd? Os nad, paratowch sbrigiau o rosmari, saets, lafant i’w rhoi i breswylwyr gael eu harogli (byddwch yn sensitif, nid oes gan bawb eu synnwyr arogli neu flasu). 
  • Cotiau cynnes.
  • Llyfrau nodiadau a phensiliau/pinnau ysgrifennu
  • Barddoniaeth
    https://www.poetryfoundation.org/poems/44484/to-autumn – gallwch wrando ar y gerdd yn cael ei hadrodd ar y wefan
    https://poetryarchive.org/explore/?type=poems shall I compare thee to a summer’s day? William Shakespeare
    Wild Nights, Emily Dickenson
    Testun print mawr – a hoffai unrhyw un o’r preswylwyr adrodd? 

Canllaw Cam wrth Gam: 

Gellir cynnal y gweithgaredd hwn yn yr ardd neu wrth fynd am dro (os yn bosibl) gyda phreswylwyr yn unigol, neu mewn grŵp bychan gyda chymorth. 

Y rhan sy’n cymryd yr amser hiraf fel arfer yw annog preswylwyr i fynd allan, felly mae’n werth eu hannog gyda the mewn fflasg a thun o deisenni. Mae sied neu dŷ gwydr yn ddelfrydol i eistedd ynddo ar ôl crwydro’r ardd. Fel arall, gosodwch gadeiriau neu fainc gyda golygfa braf (os yn bosibl) i eistedd a chael paned a thrafodaeth. 

Os nad yw’r tywydd yn wych a hoffech barhau i symud oherwydd ei bod yn rhy oer, ceisiwch dynnu sylw’r preswyliwr at blanhigion penodol, gwnewch sylw ynghylch y tywydd wrth i chi symud o gwmpas y lle.

  1. Unwaith y byddwch yn crwydro’r ardd/tu allan i’r cartref, cerddwch o gwmpas gan ddechrau sgyrsiau ac edrych ar yr amgylchedd
  2. defnyddiwch y tymhorau a’r tywydd i ddwyn atgofion – amseroedd glawog, heulwen (gwyliau) etc.
  3. defnyddiwch blanhigion i sgwrsio am dyfu neu fwyd – blasau bwyd, beth oedd pobl yn eu defnyddio i dyfu, efallai fod gan breswylwyr anifeiliaid anwes neu wedi bod yn cadw moch a rhandiroedd.
  4. Dewch o hyd i rywle i eistedd ac yfed eich te a bwyta’ch teisen – sied ardd neu dŷ gwydr neu fainc
  5. nodwch eiriau allweddol neu ddywediadau mae’r preswylwyr yn eu dweud wrthych yn ymwneud â’r ardd a’r tywydd etc.
  6. Unwaith y byddwch yn ôl i mewn, cewch eistedd mewn grŵp/yn unigol a dechrau chwarae gyda’r geiriau i wneud cerdd. Nodwch eiriau unigol a’u torri allan, gall yr unigolion eu symud o gwmpas i wneud eu cerddi eu hunain

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:

Gall y gweithgaredd barhau fel grŵp gan ddefnyddio’r geiriau i wneud cerddi, neu ysgogi atgofion drwy drafodaethau ynghylch garddio, tyfu bwyd, beth mae pobl yn hoffi eu bwyta, hoff flodau etc.

Manteisiwch ar y cyfle i gasglu dail a phlanhigion o’r ardd y gellir eu defnyddio ar gyfer peintio a thynnu lluniau, gwneud lluniau bywyd llonydd o flodau etc., rhwbiadau dail 

Addasrwydd

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai galluog:

Os gall preswylwyr ysgrifennu neu dynnu lluniau eu hunain, gwych, ond yn aml mae’n haws cofnodi’r geiriau, sgyrsiau a straeon eich hun a’u darllen yn ôl. 

Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall: 

Gydag unigolyn mae gennych gwmpas eang i wneud cerdd bersonol, neu fel grŵp gallai fod yn gyfres o gerddi neu un gerdd gan y grŵp i gofio am y diwrnod.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais