Cardiau gweithgaredd

Hand massage
1

Symudiadau dwylo a thylino dwylo – cyffyrddiad arwyddocaol

Mae ein dwylo yn adrodd straeon bywyd a phrofiad. Dyma yw un o ddarnau’r corff sy’n cael ei ddefnyddio fwyaf. 

Mae’r gweithgaredd hwn yn dathlu ein dwylo a’u straeon unigol eu hunain.

Gan ddefnyddio ystumiau, chwifio, arwyddion ac yna gorffen gyda thylino, rydym yn talu teyrnged i’w profiadau.

Dechreuwch drwy siarad am fywyd ein dwylo, dangoswch weithredoedd syml fel dynwared glaw gyda’ch bysedd, i chwifio i gydnabod eich gilydd neu wneud arwyddion fel pwyntio, a’r unigolyn y pwyntir ato yn pwyntio at rywun arall. 

Siaradwch am brofiadau gwaith, crefftau, magu plant, gwaith tŷ, llafur a chasglu llygad y dydd mewn cae a gwneud cadwyni llygad y dydd. Mae’r gweithgaredd yn benagored, a chewch ei ganiatáu i ddatblygu’n organig yn seiliedig ar y straeon yn yr ystafell. 

Gallech addysgu cyfranogwyr i arwyddo eu henw gan ddefnyddio iaith arwyddion, gwneud trefniant byr i gyfeiliant cerddoriaeth maent yn ei hoffi, neu ddynwared anifeiliaid drwy wneud ystumiau dwylo. Mwynhewch y gweithgaredd a gadewch iddo eich arwain. 

Enghreifftiau megis gwneud fideos byrion neu berfformio i’r naill a’r llall. Cymerwch ennyd i fwynhau ac archwilio’r dwylo.

Gorffennwch drwy dylino dwylo’r cyfranogwr. Ymateb mwyn a thyner i beth bynnag a ddeilliodd o’r gweithgaredd. 

Rwyf wedi atodi dau fideo, un ohonynt yw technegau tylino dwylo ar gyfer y llaw dde a’r chwith. Pan fyddwch yn gweithio gyda’r preswyliwr, sicrhewch eich bod chi’ch dau yn gyfforddus. 

Yr ail fideo yw’r wyddor mewn iaith arwyddion.

Pethau sydd eu hangen:

  • hufen neu olew dwylo ysgafn, sensitif
  • dwylo
  • sbotolau neu lamp gyfeiriadol os hoffech wneud bypedau cysgod

Canllaw Cam wrth Gam:

  1. Agorwch drwy roi gwybod i’r grŵp bod y gweithgaredd hwn yn dod i ben gyda sesiwn dylino’r dwylo. Gwobr am eu cyfraniad creadigol
  2. Defnyddiwch ystumiau yn seiliedig ar eich thema ddewisol i symud y bysedd
  3. Siaradwch am brofiadau unigolion yn yr ystafell. Defnyddiwch y rhain i wneud ystumiau y gallwch eu rhoi i gyfeiliant cerddoriaeth, ffilm efallai. I’r rheiny sy’n ei chael hi’n anodd, gallant arwyddo enw neu ddangos emosiwn neu symudiadau anifeiliaid. Mwynhewch y gweithgaredd, does dim pwysau
  4. Dechreuwch dylino dwylo’r preswylwyr yn eu tro.
  5. Wrth i chi dylino, cynhaliwch sgwrs mewn grŵp neu fesul un

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:

Mwynhewch brynhawn harddwch/diwrnod sba yn y lolfa. Efallai gallwch ymgorffori sesiynau tylino ysgafn ar groen y pen, brwsio gwallt neu driniaeth dwylo. Awgrymwch wisgo hoff ddarn o emwaith a sgwrsio am hanes yr eitemau hyn.

Cynhwyswch driniaeth dwylo a phan mae’r bobl yn yr ystafell yn teimlo fel eu bod wedi’u sbwylio, rhowch gerddoriaeth ymlaen ac ewch ati i ganu, dawnsio gyda dwylo a gall y rheiny sy’n fwy abl ddawnsio pa bynnag ffordd yr hoffent.

Gweithio gyda golau a phypedau cysgod.

Ar ôl gweithgareddau neu weithdai eraill. Mae sesiwn dylino dwylo syml yn caniatáu i’r cyfranogwr ymlacio a theimlo fel petai’n cael ei werthfawrogi am gymryd rhan

Addasrwydd

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai galluog:

Caniatewch i’r preswyliwr rannu straeon wrth dylino ei ddwylo. Hyd yn oed os ydyw’n cymryd rhan yn y sesiwn dylino yn unig, mae cyffyrddiad yn adnodd cysylltiol iawn a gellir ei ddefnyddio i dawelu a lleddfu gorbryder neu wneud i rywun deimlo ei fod yn rhan o’r grŵp.

Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall: 

Byddai’r gweithgaredd hwn fesul unigolyn yn brofiad mwy personol, gallech deilwra’r canlyniad yn ôl stori’r unigolyn a chael ennyd cysylltiol go iawn gyda’r unigolyn hwnnw.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais