Cardiau gweithgaredd

movement
1

Symudiad

Mae Celfyddydau Perfformio’n cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n gallu bod yn ymarfer da i breswylwyr, yn enwedig y rhai sy’n methu symud llawer. Gall gweithgareddau rhythm syml a symudiadau i dawelu sy’n cael eu cydlynu gydag anadlu fod yn hwyl o’u gwneud mewn grŵp.

Mae posib gwneud yr ymarferion canlynol yn eistedd i lawr neu’n sefyll:

  • Gyda cherddoriaeth fywiog yn chwarae, ewch ati i annog y preswylwyr i dapio eu traed neu guro eu dwylo i’r curiad: E.e. 8 tap ar y pen, 8 ar yr ysgwyddau, 8 ar y bol, 8 ar y glin (cluniau). Wedyn ailadrodd gyda 4 tap yr un, ac wedyn 2 dap yr un, gan gyflymu’r rhythm.
  • Gyda cherddoriaeth swynol yn chwarae, ewch ati i annog y preswylwyr i godi eu breichiau wrth anadlu i mewn a’u gostwng nhw wrth anadlu allan.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais