Stori wedi’i hysbrydoli gan gelf
Un ffordd wych o gael pobl i feddwl am straeon neu farddoniaeth yw drwy ddechrau gyda llun.
Chwiliwch am lun, ffotograff neu ddelwedd o ffilm neu raglen deledu.
Trafodwch y llun gyda’r preswylwyr ac wedyn dechrau gofyn cwestiynau creadigol:
- Pwy ydi’r bobl yn y llun?
- Beth ydi eu gwaith nhw?
- Beth maen nhw’n ei wneud nawr?
- Ble maen nhw’n mynd?
Cofiwch annog y preswylwyr i greu stori fer a syml am y cymeriadau a’r sefyllfa sydd i’w gweld yn y llun.
Weithiau mae’n haws creu stori o lun nag o’r cof.