Cardiau gweithgaredd

Clay cup
1

Seremoni de gydag inc a chlai

Wedi’i ysbrydoli gan seremonïau Siapan, a’i mwynhau gan yfwyr te Cymreig o Brydain. Mae te yn rhoi ennyd i adlewyrchu a chysylltu ac mae’n weithgaredd sy’n cynhesu’r enaid ac yn torri syched. 

Dyluniwyd y gweithgaredd hwn i fagu ymddiriedaeth drwy ddechrau gyda defod gyfarwydd, rhannu te a bisgedi os hoffech chi. 

Unwaith caiff y te ei arllwys, ac ar ôl ychwanegu’r llefrith a’r siwgr, gellir dechrau trafod y te, cynnal seremoni, rhoi’r blodau yng nghanol y bwrdd, a sylwi ar siapiau, lliwiau, arogleuon a gweadau. 

Bydd y papur a’r inc eisoes wedi’u gosod o gwmpas y bwrdd.

Dylunio a gwneud marciau gydag inc yw un o’r ffyrdd fwyaf hawdd a llyfn o wneud gwaith. Drwy ddefnyddio un lliw fesul dyluniad, gofynnwch i’r cyfranogwr ddewis siapiau, llinellau ac ystumiau o’r blodau a’r fâs yng nghanol y bwrdd a llenwi ei bapur sut bynnag yr hoffai. Efallai y dymuna ganolbwyntio arno fel bywyd llonydd a dylunio’r hyn a welai’n llythrennol, neu gallai wneud patrwm neu ganolbwyntio ar un o’r adrannau. Mae hyn yn caniatáu gweithred megis dawns. Tynnwch luniau o’r llinellau neu gwnewch y dail, petalau a choesau gyda smotiau. 

Drwy oedi i feddwl a sipian te, gallwn fyfyrio ar y gwaith, fel grŵp gallwch ddwyn ysbrydoliaeth o luniau eraill o gwmpas yr ystafell a threulio amser yn chwerthin, canmol a chadw’r gweithgaredd yn un ysgafn. Mae’r gweithgaredd hwn ar gael fel defod ac i’r rheiny nad ydynt yn hoff ar yr elfen ddylunio neu efallai nad ydynt mor abl â chyfranogwyr eraill, gellir defnyddio clai sy’n sychu ei hun ar gyfer y rheiny. Gyda hyn, gallai’r cyfranogwr fowldio blodau, llestri yfed neu gwpanau te.

Pethau sydd eu hangen:

  • Tusw o flodau mewn fâs
  • papur cryf
  • inc
  • brwshys paent meddal gyda blaen â phwynt
  • clai sy’n sychu ei hun
  • pot te, cwpanau te a soseri Bisgedi os hoffech.

Canllaw Cam wrth Gam:

  1. gosodwch fwrdd gyda phot te, blodau yn y canol a deunyddiau celf wrth benelin bob cyfranogwr
  2. arllwyswch de a siaradwch yn agored ynghylch hyn, y blodau, neu beth bynnag sy’n dod i’ch meddwl
  3. dechreuwch ddarlunio canolbwynt y bwrdd, neu wrthrychau ar y bwrdd gydag inc ar bapur neu gyda’r clai a ddarperir. 
  4. Caniatewch symudiadau llyfn a gwneud marciau llyfn. Gall y delweddau hyn amrywio o fywyd llonydd i haniaethol a phatrymog.
  5. oedwch a myfyriwch, rhannwch ddyluniadau a meddyliau.
  6. parhewch, helpwch eich hun i baned arall 
  7. caniatewch bob cyfranogwr i orffen dylunio/modelu ar ei liwt ei hun. Gwenwch a rhannwch

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:

Gellir archwilio’r gelfyddyd o drefnu blodau hefyd. 

Gallaf ddychmygu hwn yn cael ei addasu’n ddigwyddiad te a sgon yn yr ardd. Ar ddiwrnod o haf, yn eistedd y tu allan a dylunio pethau yn yr ardd. Efallai gallwch gynnwys sgon gyda jam a hufen.

Gall y pwnc newid hefyd. Gellir defnyddio amrywiaeth o bethau fel bywyd llonydd a’u gosod yng nghanol y bwrdd. Yn ogystal, gellir dylunio patrymau wrth wrando ar gerddoriaeth, delweddau o’r teledu neu bethau eraill megis gweithredoedd.

Addasrwydd

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai abl:

Gallech gynnal gweithgaredd trefnu blodau gan ganiatáu i breswylwyr llai abl i ddewis arddangosfa.

Fel y soniwyd yn y disgrifiad, roedd clai sy’n sychu ei hun yn ddewis da. Yn ogystal, gellir cymryd blodyn o’r fâs, ei ddal ac edrych arno, a sgwrsio am dderbyn blodau, tyfu blodau. 

I rai preswylwyr, gall eistedd a chael rhyngweithiad â’r te a gwylio fod yn effeithiol. Y syniad o fod yn rhan o’r gweithgaredd drwy gyfrannu a chael paned a sgwrs.

Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall: 

Yr un broses boed yn cynnwys grŵp neu unigolyn.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais