Cardiau gweithgaredd

Sitting room protest
1

Protest yn yr ystafell eistedd

Nod y gweithgaredd hwn yw rhoi’r byd yn ei le.

Byddwch yn dechrau drwy gymryd tro i leisio’ch cwynion a thrafod beth yw eich casbethau mwyaf.

A yw moesau gwael yn eich gwylltio’n gacwn?

Beth am faterion gyda gwleidyddion neu reolau?

Pe gallech gynnal protest, beth fyddai eich achos?

Gan ddefnyddio hen focsys cardbord, peintiwch eich protestiadau!

Pethau sydd eu hangen:

  • Bocsys cardbord (defnyddiwch yr ochr brown) neu gerdyn A3 trwchus. Dyma fydd eich hysbyslenni
  • Paent
  • Brwshys sydd â choesau trwchus
  • Lleisiau Cryfion!

Canllaw Cam wrth Gam:

  1. Cynhaliwch ddadl
  2. Nodwch sylwadau yr ydych yn clywed preswylwyr yn eu dweud, gan nodi pwy a ddywedodd beth
  3. Cynorthwywch y preswylwyr i beintio eu datganiadau. Ceisiwch eu cadw’n gryno, fel “DIM MWY O FOESAU GWAEL” neu “DYWEDWCH NA WRTH ANGHWRTEISI”
  4. Gadewch i’r hysbyslenni sychu
  5. Arddangoswch nhw.

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:

  1. Casglwch y preswylwyr ynghyd unwaith y bydd yr hysbyslenni wedi sychu a chynhaliwch brotest
  2. Edrychwch ar brotestiadau eraill a’u defnyddio fel pwnc trafod.

Addasrwydd

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai abl:

Gallai staff beintio ar ran preswylwyr.

Dewiswch baent tywyll, trwchus sy’n amlwg fel gall pobl weld yr hyn maent yn ei beintio.

Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall: 

Gallech wneud hyn pan mae teuluoedd yn ymweld. Ceisiwch ragor o gyfraniadau a chynhwyswch ragor o bobl. Cynhwyswch staff, a rheolwyr hefyd.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais