Cardiau gweithgaredd

Performing stories
2

Perfformio straeon

Mae rhai pobl yn nerfus am berfformio, ond does dim rhaid i berfformio fod yn rhywbeth mawr. Mae darllen cerdd neu ddangos sut mae pysgodyn yn symud gyda’ch llaw yn gallu bod yn berfformio os ydych yn ei wneud i bobl eraill.

Un ffordd hawdd o annog preswylwyr i berfformio straeon yw drwy roi stori syml fel y Fôr-forwyn Fechan iddyn nhw.

Rhowch ddewis o brops i breswylwyr, fel defnydd lliw, cregyn neu wymon, ac wedyn eu hannog i greu storm neu fyd tanddwr gan ddefnyddio’r props a’u lleisiau i greu synau.

Mae’r canlyniadau’n gallu bod yn effeithiol iawn. Chwiliwch am straeon gyda gwahanol leoliadau (coedwig, ar gwch, gorsaf drenau, ac ati) a helpu’r preswylwyr i greu eu golygfeydd eu hunain gyda phrops, sain a cherddoriaeth.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais