Cardiau gweithgaredd

Guided meditation
1

Myfyrdod dan arweiniad – ffurfio straeon

Gobaith y gweithgaredd hwn yw ysbrydoli’r dychymyg a chaniatáu ymatebion gweledol ac atgofion amrywiol.  Stori ddisgrifio yr ydych yn ei hadrodd yn uchel yw myfyrdod dan arweiniad tra bod y cyfranogwyr yn cau eu llygaid ac yn gwrando.  Gall y cynnwys y tynnir arno fod ar wahanol ffurfiau, boed yn ddyluniad, paentiad, cerflunwaith, llun, recordiad llais etc. Mae hwn yn weithgaredd arbennig i ysbrydoli straeon unigryw ac unigol ac ystumiau creadigol.

Mae’r dull syml yn codi syniadau gweledol, boed yn ffantasi neu’n atgofion. Y syniad yw mynd ar daith benagored, dan arweiniad arweinydd y gweithgaredd (chi)

Dyma enghraifft o fyfyrio dan arweiniad

Gofynnwch i’ch preswylwyr gau eu llygaid a chymryd anadl ddofn.

Y daith gerdded

“Rydych yn sefyll ar lwybr, mae gan y llwybr dri chyfeiriad,

mae’r llwybr i’r chwith yn eich arwain i lawr at y môr, mae’r llwybr canol yn eich arwain i’r goedwig a’r llwybr i’r dde yn arwain at ddinas.

Rydych chi’n meddwl am ba lwybr yr hoffech ei droedio, rydych yn meddwl am yr hyn yr hoffech ei weld, yr hyn yr hoffech ei deimlo o dan eich traed, tywod, creigiau, glaswellt neu garreg. Rydych yn meddwl am arogleuon a synau, lliwiau a blasau ar ddiwedd eich taith ddewisol.

Pa lwybr fyddwch chi’n ei droedio, y môr, y goedwig neu’r ddinas?

Os ydych yn penderfynu mynd tuag at y môr, cerddwch i lawr y llwybr ar eich chwith. Mae eich traed yn cyrraedd tywod, cerrig mân neu greigiau. Beth yw’r tymheredd? A yw’n gyfarwydd? Beth sy’n digwydd o’ch cwmpas neu yn y môr? Beth allwch chi ei weld a’i glywed? Pa amser o’r diwrnod ydyw? 

Eisteddwch ar garreg a mwynhewch eich amgylchedd…..”

Yna parhewch â’r stori ar gyfer y goedwig a’r ddinas gyda chwestiynau neu awgrymiadau cysylltiedig er mwyn tanio dychymyg y cyfranogwyr.

Dylai hyn gymryd oddeutu pum munud ac unwaith y rhoddir y disgrifiad, mae’r cyfranogwyr yn agor eu llygaid ac yn rhannu eu meddyliau â’r naill a’r llall. Mae’n rhyfeddol yr amrywiaeth o ymatebion gweledol ac ysgogiadau sy’n cael eu creu yn y gweithgaredd hwn. Fel arweinydd y gweithgaredd hwn, chi sy’n penderfynu sut i gofnodi’r gweledigaethau sydd wedi’u dychmygu yn dibynnu ar y cynnwys.

Ynghlwm mae enghraifft o waith sydd wedi deillio o’r gweithgaredd hwn. Mae’n animeiddiad sydd wedi deillio o’r straeon yn un o’r cartrefi y gweithiais ynddo.

Pethau sydd eu hangen:

  • ystafell dawel
  • deunyddiau i gofnodi’r teithiau, pensil, inc, clai, papur, recordiwr sain, camera…etc
  • cerddoriaeth neu effeithiau sain tawel (opsiynol)
  • Camera os hoffech wneud animeiddiad

Canllaw Cam wrth Gam:

  1. eglurwch y gweithgaredd yn bwyllog a chymerwch ychydig o anadlau, gofynnwch i’r cyfranogwyr am gau eu llygaid ac agor eu dychymyg i olygfeydd, arogleuon ac atgofion
  2. darllenwch eich taith benagored yn uchel 
  3. rhannwch y straeon fel grŵp a gadewch i’r sgwrs a’r cydweithio lifo.
  4. gofynnwch i breswylwyr gofnodi rhywbeth o’u hymateb gweledol, o dynnu llun ar bapur i recordiad sain o adeg yn y stori.
  5. Gall hyn arwain at waith yn y gweithdy nesaf yn y dyfodol. Defnyddio ffilm a ffotograffiaeth i blethu taith bob cyfranogwr ynghyd.

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:

Gallwch addasu elfen adrodd stori’r gweithgaredd hwn. Cewch ganiatáu pob math o anturiaethau dychmygus, mynd i ddawnsio mewn neuaddau dawnsio, ymweld â’r opera neu’r sinema. Efallai eich bod yn llwyfannu digwyddiad, trawsffurfio’r ystafell fyw yn neuadd ddawnsio gyda cherddoriaeth ac ychydig o wisgoedd. Gwisgwch eich hoff ffrog, gŵn neu siwt. Beth am gael brynhawn yn y sinema gyda drama theatr ar y teledu a phopgorn neu deisen efallai.

Addasrwydd

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai galluog:

Gan fod y gweithgaredd hwn yn dibynnu ar ddychymyg i ddechrau, mae preswylwyr llai medrus yn ei chael hi’n ysgogol rhannu eu safbwyntiau. I’r rheiny fyddai’n ei chael hi’n anodd â’r cwestiynau, efallai canolbwyntiwch ar un daith, eu tref enedigol neu’r môr. Cadwch y disgrifiad yn fyr a syml a gadewch i’r dychymyg arwain o’r fan honno.

Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall: 

Mewn sefyllfa un i un, cadwch yr un strwythur adrodd straeon a sgwrsiwch yn rhydd am y daith wedyn. Cymerwch elfen a byddwch yn greadigol.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais