Cardiau gweithgaredd

Mono Printing
2

Mono argraffu

Mae mono argraffu yn broses syml a chyflym iawn. Gellir ei chyflwyno mewn dwy ffordd wahanol. Ychwanegol: Tynnu lluniau o batrymau, delweddau neu destun ar arwyneb sydd ag inc arno, yna gosod papur ar ei ben i godi’r dyluniad,

Neu dynnol: 

Rhoi’r arwyneb â’i wyneb i lawr ar yr arwyneb sydd ag inc arno ac yna tynnu llun o’r dyluniad ar gefn y papur tra y mae yn ei le.

Gan fod y broses yn gyflym iawn, mae’n ddefnyddiol annog preswylwyr i feddwl yn gyflym, a dechrau meddwl hefyd am y broses i’r gwrthwyneb – os hoffent ysgrifennu testun, bydd rhaid iddo fod wedi’i sillafu o chwith.

Pethau sydd eu hangen:

  • Inciau argraffu https://www.jacksonsart.com/colour/printmaking/relief-and-lino-printing
  • https://www.greatart.co.uk/essdee-premium-printing-ink-set.html 
  • Taflenni acrylig (un yr un) 
  • Rholeri argraffu (ar gael hefyd o siop ar-lein, neu siop gelf leol)
  • Cadach papur er mwyn glanhau, cynfasau plastig neu hen bapurau newydd i orchuddio’r bwrdd
  • Ffyn cotwm i dynnu llun ar yr inc
  • Neu, os ydych yn gwneud y broses dynnol, yna pensiliau i dynnu llun ar gefn y papur
  • Lein ddillad gyda phegiau i sychu printiau

Mynediad at y sinc, ffedogau i breswylwyr er mwyn cadw’r inc acrylig oddi ar eu dillad!

Canllaw Cam wrth Gam:

  1. paratowch yr ardal weithio gyda chynfasau plastig neu hen bapur newydd a rhowch ffedogau i bawb sy’n cymryd rhan
  2. gwasgwch yr inc ar y taflenni acrylig a’u rholio nes eu bod yn llyfn ac yn gyson ar draws y plât.
  3. defnyddiwch y ffon gotwm i greu delwedd (gall fod yn ddefnyddiol gwneud rhai brasluniau â phensil yn gyntaf i ysgogi syniadau, ac os yw preswylwyr eisiau defnyddio testun, cyflwynwch ysgrifennu o chwith)
  4. gosodwch y papur ar y plât sydd ag inc arno a rhwbio’n galed gyda gwaelod eich dwrn dros y cwbl – rhaid i chi fod yn eithaf cyflym gyda hyn rhag i’r inc sychu cyn iddo gyrraedd y papur.
  5. rhowch y printiau i’w hongian i sychu (mae lein ddillad yn ddefnyddiol) neu os oes gennych le, gosodwch nhw ar y bwrdd nes bod yr inc yn sych

ar gyfer y broses dynnu yng ngham 2. Gosodwch y papur i lawr ar yr arwyneb gydag inc arno ac yna tynnwch lun ar yr wyneb.

nodiadau: golchwch yr offer cyn gynted â phosibl ar ôl eu defnyddio.

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:

Unwaith y byddwch wedi rhoi cynnig ar y dull ychwanegol gyda’r preswylwyr, rhowch gynnig ar y dull tynnol. 

Yn ogystal, mae’n hyfryd gwneud cyfres o gardiau ar gyfer y Nadolig, Pasg etc.

Unwaith y bydd gennych eich inciau argraffu a rholeri, gallwch roi cynnig ar ddulliau argraffu eraill – printiau tatws ar gyfer printio patrwm, leino (gall hyn fod yn fwy anodd gyda phobl hŷn gan fod yr offer yn llawer mwy anodd i’w ddefnyddio), taflenni o bolystyren y gallwch dynnu lluniau arnynt a gwneud printiau un tro. Mono argraffu yw’r man cychwyn.

Addasrwydd

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai abl:

Efallai bydd angen cymorth gyda thynnu llun ar y plât sydd ag inc arno i’r rheiny sy’n llai abl, edrychwch ar gopïo delweddau os oes angen rhai syniadau arnynt ar gyfer delweddau i dynnu lluniau ohonynt. 

Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall: 

Os ydych yn gweithio gyda grŵp neu’n gweithio fel hwylusydd unigol, rhowch bapur a phensiliau i breswylwyr i dynnu lluniau i feddwl am syniadau fel y gallwch ganolbwyntio ar argraffu gydag un preswyliwr ar y tro.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais