Cardiau gweithgaredd

garden hangings
1

Llif – Ategolion i’w hongian yn yr ardd

Gweithgaredd sydd wirioneddol yn annog yr ymdeimlad o lif i’r preswyliwr. Gall gwehyddu fod yn therapiwtig oherwydd y rhythm a’r ailadrodd sydd ynghlwm ag o. Mae hefyd yn annog lefel isel o ganolbwyntio. Gall y cyfranogwr gael synnwyr gwych o gyflawniad wrth iddo weld ei greadigaeth yn tyfu o’i flaen.

Pethau sydd eu hangen:

  • Ffyn (o fyd natur yn ddelfrydol)
  • Llinyn neu wifren denau iawn
  • Gefail i dorri gwifren 
  • Gleiniau/botymau i’w gwehyddu i ychwanegu at y rhan hongian (Opsiynol)

Canllaw Cam wrth Gam:

  1. Croeswch 2 ffyn gyda’i gilydd (siâp croes)
  2. Clymwch yn dynn gyda llinyn (Gan gydlynydd y gweithgaredd) 
  3. O’r canol, clymwch linyn neu wifren i un o’r ffyn
  4. Gwehyddwch y wifren/llinyn rhwng y ffyn, gan fynd drostynt ac oddi tanynt
  5. Ychwanegwch wahanol liwiau ar hyd y ffordd drwy gysylltu’r weiren gyfredol ag un newydd
  6. Parhewch mor bell ag yr hoffech 
  7. Ychwanegwch linyn at y brig er mwyn ei hongian 
  8. Ychwanegwch leiniau, plu etc. os hoffech

Does dim brys â’r gweithgaredd hwn. Efallai y cymerir ychydig o amser i’r preswyliwr ddechrau arni a dysgu ond unwaith y bydd wedi arfer, bydd yn siŵr o ymlacio a mwynhau.

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:

Gan ddefnyddio hen gyllyll a ffyrc, defnyddiwch y ffyrch i wehyddu i mewn iddynt ac allan ohonynt. Eto, ychwanegwch linyn i’w ddefnyddio i hongian ac ychwanegwch unrhyw elfennau eraill y gallwch ddod o hyd iddynt. Arbrofwch gyda beth sydd gennych chi. Dewch o hyd i eitemau y gallwch eu defnyddio i wehyddu. 

Gallwch hongian y rhain yn yr ardd neu mewn ardal gyffredin y tu mewn i’r cartref.

Addasrwydd

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai galluog:

Daliwch y groes wrth i’r preswylwyr wehyddu. Rhowch arweiniad iddynt ond peidiwch â phoeni gormod am berffeithrwydd. Gall amherffeithrwydd fod yr un mor gyffrous ac yn aml byddwch yn creu rhywbeth sy’n fwy unigryw.

Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall: 

Gellid gwneud hyn mewn grŵp neu fel unigolyn. Gallwch wneud hyn ar wahanol amseroedd. Os ydych yn ei wneud fel grŵp mwy, efallai ei bod yn syniad bod yn drefnus a chlymu’r ffyn yn barod, fel y gallwch roi’r groes i’r preswylwyr i weithio arni. Gallwch wneud y rhain yn symudyn neu eu hongian oddi ar y coed.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais