Cardiau gweithgaredd

Sensory garden
2

Gardd synhwyraidd

Mae’r gweithgaredd hwn yn archwilio’r brwdfrydedd cyffredinol tuag at gerddi, garddio, blodau, planhigion, pyllau dŵr, coed, popeth sydd gan natur i’w gynnig. Meddyliwch am yr arogleuon, gweadau, lliwiau a phrofiadau sydd ynghlwm â llefydd o’r fath. Mewn grŵp, yn dibynnu ar y maint dylech anelu at wneud un ardd rhwng 3 neu 4 preswyliwr. Os yw’n bot plannu ar gyfer yr ardd yn y cartref, yna gwnewch un fesul preswyliwr *disgrifiad isod

Gyda’r gweithgaredd hwn, dechreuwch gyda darn o gerdyn siâp ffenestr. Caiff hwn ei addurno gyda blodau artiffisial neu flodau wedi’u peintio gennych chi neu gyda’r preswylwyr mewn gweithgaredd blaenorol. 

Gan ddefnyddio’r ffenestr hon, bydd pob preswyliwr yn ei dal o flaen ei wyneb, yn edrych drwyddi ac yn gwenu. Yna mae’n disgrifio ei ardd berffaith neu ran o ardd/lle mae’n ei gofio’n annwyl. 

Mae’r gweithgaredd cychwynnol hwn yn caniatáu i’r dychymyg ailymweld â lle ac yn cynorthwyo i ysbrydoli’r preswyliwr i greu rhywbeth ar gyfer yr ardd ar raddfa fach, gan y gallant gyfeirio at rywbeth.

Gyda’r gwahanol ddeunyddiau ar y bwrdd, dechreuwch wneud agweddau ar yr ardd. Peintiwch ffyn lolipop i wneud ffens efallai, a defnyddiwch y clai dwylo i gerfio gwrthrychau. 

Gyda’r polystyren, gwthiwch y blodau artiffisial a brigau ynddo a bydd eich gerddi yn dechrau siapio.

Y nod yw creu gardd ar raddfa fechan neu blannu rhywbeth i’r cartref ei fwynhau. Gosodwch yr ardd yn rhywle cyffredin i bawb ei mwynhau ac mae rhwydd hynt i chi barhau i ychwanegu at yr ardd.

Mae awgrymiadau eraill yn cynnwys dod o hyd i bethau o dai dol megis mainc neu siglen. Gadewch i’ch dychymyg eich arwain.

*fel arall, gyda photiau plannu yn y cartref, dyluniwch fasgedi crog gyda fioledau a blodau eraill y gwanwyn neu wneud gerddi perlysiau gyda rhosmari a theim neu lafant.

Mae’r arogleuon a lliwiau wrth weithio gyda pherlysiau a blodau go iawn yn ffordd wych o ddechrau sgwrs.

Pethau sydd eu hangen:

  • blodau artiffisial
  • perlysiau/blodau plannu go iawn
  • cardbord a phaent
  • deunyddiau crefft megis ffyn lolipop ar gyfer ffensys
  • Clai modelu â llaw i greu meinciau neu strwythur pwll dŵr
  • Hambwrdd/polystyren
  • ffenestr wedi’i thorri allan ar gerdyn
  • cregyn
  • cerrig bychain
  • cerrig gwydr

I’r potiau plannu

  • pridd â gwrtaith
  • basgedi crog neu botiau plannu
  • pridd
  • Detholiad o blanhigion, blodau a pherlysiau.

Canllaw Cam wrth Gam:

  1. gan ddefnyddio’r ffrâm, caniatewch i bob cyfranogwr rannu profiad gardd gyda’r grŵp. Rhywbeth sy’n gwneud i chi wenu
  2. mewn grwpiau o dri, adeiladwch elfennau unigol o wneud yr ardd, peintio ffyn lolipop, modelu gyda chlai dwylo
  3. ar y bloc polystyren, dechreuwch ychwanegu’r elfennau hyn ac adeiladu’ch gardd
  4. ychwanegwch ddŵr at y pŵll dŵr os oes gennych un. Peintiwch bethau ac addaswch tan eich bod yn hapus
  5. fel arall, defnyddiwch y potiau plannu a gwnewch fasgedi crog neu botiau perlysiau
  6. rhowch nhw ar ddangos yn rhywle i bawb gael gweld eu lliwiau hyfryd. Gyda hongwyr a pherlysiau, rhowch nhw yn yr ardd a’u gadael i flodeuo

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:

Defnyddio’r cysyniad ffrâm/ffenestr flodau. Meddyliwch am wrthrych arall fel eich man cychwyn. Er enghraifft, gafael mewn balŵn cylch, gwyn fel petaech yn sefyll ar y lleuad. Beth mae’r preswylwyr yn ei ddychmygu sydd yn y gofod? A allech chi wneud gardd neu fyd ffuglen wyddonol?

Addasrwydd

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai abl:

Efallai fod rhai o elfennau’r ardd yn haws i’w cyflawni. Mae elfennau clai llaw a mowldio i’w rhoi yn yr ardd yn boblogaidd, yn ogystal â phaentio elfennau unwaith maent wedi’u cerflunio neu eu dylunio.

Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall: 

Fel gweithgaredd un i un, mae’r pot plannu yn weithgaredd gwych. Rhoi rhyddid llwyr i’r preswyliwr mewn perthynas â’r dyluniad. Os yn bosibl, efallai mynd am dro o gwmpas yr ardd yn y cartref a chael sgwrs.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais