Mae’r gweithgaredd hwn yn archwilio’r brwdfrydedd cyffredinol tuag at gerddi, garddio, blodau, planhigion, pyllau dŵr, coed, popeth sydd gan natur i’w gynnig. Meddyliwch am yr arogleuon, gweadau, lliwiau a phrofiadau sydd ynghlwm â llefydd o’r fath. Mewn grŵp, yn dibynnu ar y maint dylech anelu at wneud un ardd rhwng 3 neu 4 preswyliwr. Os yw’n bot plannu ar gyfer yr ardd yn y cartref, yna gwnewch un fesul preswyliwr *disgrifiad isod
Gyda’r gweithgaredd hwn, dechreuwch gyda darn o gerdyn siâp ffenestr. Caiff hwn ei addurno gyda blodau artiffisial neu flodau wedi’u peintio gennych chi neu gyda’r preswylwyr mewn gweithgaredd blaenorol.
Gan ddefnyddio’r ffenestr hon, bydd pob preswyliwr yn ei dal o flaen ei wyneb, yn edrych drwyddi ac yn gwenu. Yna mae’n disgrifio ei ardd berffaith neu ran o ardd/lle mae’n ei gofio’n annwyl.
Mae’r gweithgaredd cychwynnol hwn yn caniatáu i’r dychymyg ailymweld â lle ac yn cynorthwyo i ysbrydoli’r preswyliwr i greu rhywbeth ar gyfer yr ardd ar raddfa fach, gan y gallant gyfeirio at rywbeth.
Gyda’r gwahanol ddeunyddiau ar y bwrdd, dechreuwch wneud agweddau ar yr ardd. Peintiwch ffyn lolipop i wneud ffens efallai, a defnyddiwch y clai dwylo i gerfio gwrthrychau.
Gyda’r polystyren, gwthiwch y blodau artiffisial a brigau ynddo a bydd eich gerddi yn dechrau siapio.
Y nod yw creu gardd ar raddfa fechan neu blannu rhywbeth i’r cartref ei fwynhau. Gosodwch yr ardd yn rhywle cyffredin i bawb ei mwynhau ac mae rhwydd hynt i chi barhau i ychwanegu at yr ardd.
Mae awgrymiadau eraill yn cynnwys dod o hyd i bethau o dai dol megis mainc neu siglen. Gadewch i’ch dychymyg eich arwain.
*fel arall, gyda photiau plannu yn y cartref, dyluniwch fasgedi crog gyda fioledau a blodau eraill y gwanwyn neu wneud gerddi perlysiau gyda rhosmari a theim neu lafant.
Mae’r arogleuon a lliwiau wrth weithio gyda pherlysiau a blodau go iawn yn ffordd wych o ddechrau sgwrs.
I’r potiau plannu
Defnyddio’r cysyniad ffrâm/ffenestr flodau. Meddyliwch am wrthrych arall fel eich man cychwyn. Er enghraifft, gafael mewn balŵn cylch, gwyn fel petaech yn sefyll ar y lleuad. Beth mae’r preswylwyr yn ei ddychmygu sydd yn y gofod? A allech chi wneud gardd neu fyd ffuglen wyddonol?
Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai abl:
Efallai fod rhai o elfennau’r ardd yn haws i’w cyflawni. Mae elfennau clai llaw a mowldio i’w rhoi yn yr ardd yn boblogaidd, yn ogystal â phaentio elfennau unwaith maent wedi’u cerflunio neu eu dylunio.
Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall:
Fel gweithgaredd un i un, mae’r pot plannu yn weithgaredd gwych. Rhoi rhyddid llwyr i’r preswyliwr mewn perthynas â’r dyluniad. Os yn bosibl, efallai mynd am dro o gwmpas yr ardd yn y cartref a chael sgwrs.