Cardiau gweithgaredd

Matisse
2

Dylunio gyda golosg

Wrth wraidd ysbrydoliaeth y gweithgaredd hwn yw’r Matisse mawr a ddechreuodd, ar ddiwedd ei yrfa, ddefnyddio brwsh dau fetr o hyd i wneud ei waith. Dioddefodd o arthritis a chanser ac efallai mai dyma oedd un o’r rhesymau dros ei ddefnydd o’r ffon hir. 

Mae hwn yn weithgaredd defnyddiol i annog preswylwyr na fyddai ganddynt ddiddordeb fel arfer mewn tynnu lluniau er mwyn eu hannog i roi cynnig arni. Mae hefyd yn gweithio fel gweithgaredd unigol i’r rheiny sy’n ei chael hi’n anodd gweld neu’n cael trafferthion canolbwyntio, oherwydd ei bod yn broses gyflym, ond yn yr un modd, gellir ychwanegu at y dyluniad i greu rhywbeth mwy gorffenedig.

Pethau sydd eu hangen:

  • Rholyn mawr o bapur gwyn. 
  • Mae’n gweithio gyda phapur lapio brown, a phapur wedi’i ailgylchu.
  • (Os oes gennych argraffydd yn lleol, efallai fod gwerth gofyn a oes ganddynt unrhyw roliau mawr sy’n mynd i gael ei ailgylchu y gallwch ei gael am ddim). Os na allwch ddod o hyd i unrhyw bapur, cadwch hen focsys cardbord er mwyn eu gwastadu a thynnu lluniau arnynt.
  • Pecyn o olosg.
  • Ffyn bambŵ
  • Tap masgio i lynu’r golosg ar flaen y ffyn bambŵ 

Canllaw Cam wrth Gam:

  1. gwnewch le mewn ardal gyffredin a rholiwch dri neu bedwar metr o bapur (neu faint bynnag o le sydd gennych) ar y llawr
  2. symudwch gadeiriau’r preswylwyr y naill ochr i’r papur
  3. tapiwch y golosg ar flaen y ffyn bambŵ
  4. rhowch gerddoriaeth ymlaen neu darllenwch ychydig o farddoniaeth i ysgogi’r awen a chael hwyl
  5. rhowch y ffyn dylunio iddynt (gan amlaf mae’n syniad da arddangos rhai enghreifftiau eich hun yn gyntaf)
  6. anogwch nhw i dynnu lluniau, ysgrifennu neu wneud marciau ar y papur i wneud dyluniad grŵp, neu torrwch gyfraniadau unigol ar y diwedd

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:

Rhowch gynnig arni gyda brwshys Tsieineaidd ac inc du i gael effaith ysgrifennu/peintio Tsieineaidd. Ychwanegwch ddŵr at yr inc i wneud mwy o baentiad. 

Cyflwynwch gerddoriaeth i’r gweithgaredd, gan chwarae arddulliau gwahanol mewn modd hwyliog ‘dylunio i’r gerddoriaeth’ sy’n ffordd stopio/ailddechrau hwyliog i gael gweld pa fath o ddarluniau gwahanol sy’n cael eu gwneud. 

Gallwch hefyd roi cynnig arni ar y wal os oes gennych le a gosod cynfasau ar y llawr i’w orchuddio os hoffech gael hwyl gyda phaent yn diferu.

Addasrwydd

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai galluog:

Mae inc a brwshys yn haws eu trin na golosg gan nad oes angen i chi bwyso mor galed i wneud marc, ac mae’n gwneud argraff yn gyflym.

Gallwch hefyd newid y brwshys yn gyfan gwbl am bapur lliw mawr, ac i’r rheiny na allant ddefnyddio eu dwylo o gwbl, gofynnwch iddynt eich cyfeirio at le’r hoffent wneud siapiau a lliwiau fel collage ar y papur.

Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall: 

I unigolion efallai byddwn yn dechrau gyda sgwrs, ysgogi atgofion a dod o hyd i ddelweddau y mae gan y preswyliwr ddiddordeb ynddynt er mwyn dod o hyd i destunau i’w darlunio i ddechrau (deuparth gwaith yw ei ddechrau i’r preswylwyr weithiau).

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais