Cardiau gweithgaredd

Felt making
1

Dwyn atgofion gyda gwaith ffelt

Defnyddio ffibrau gwlân crai o’r enw gwlân cnu i wneud dyluniadau lliwgar, synhwyraidd, cyffyrddol ac ymgysylltiol.  Gall y rhain fod yn ddelweddau yn seiliedig ar y thema hoff lefydd gyda ffocws ar feddwl am ysgogi atgof a’r synhwyrau drwy ymweld â’r – ardd/traeth/ffair/gwinllan/fferm/gwyliau/sw etc

Nid oes rhaid i hyn fod yn llythrennol; gallech ganolbwyntio’n unig ar liwiau a fyddai’n gwneud collage hyfryd o ddyluniadau haniaethol patrymog. Edrychwch ar baentiadau gan arlunwyr, megis Water Lilies gan Renoir a Monet, Starry Night gan Van Goch.  Dewiswch ddau neu dri lliw i weithio gyda nhw.  Ystyriwch y broses a’r ffordd y mae’r deunyddiau yn cael eu trin, trwchus a thenau neu feddal a pha mor flewog yw’r deunyddiau sydd ynghlwm â’r broses gwneud ffelt.

Offer – lluniau / delweddau / straeon / cerddoriaeth / eitemau ag arogl persawr  

meddwl am y llefydd hyn gyda chymorth –

Offer – hetiau / plu / balŵns / grawnwin / candi-fflos/ blodau / offer / dillad / arfbais / medalau

Neu canolbwyntiwch ar liw, gwnewch enfys,  

Mae defnyddio gwlân fel deunydd yn aml yn ysgogi sgyrsiau ynghylch gwau dillad / gwneud ffrogiau / lifrai / ffermwyr defaid

Pethau sydd eu hangen:

  • Cnu gwlân mewn gwahanol liwiau
  • Papur swigod
  • Dŵr sebon
  • Tywel
  • Siswrn
  • Chwistrell dŵr

Canllaw Cam wrth Gam:

  1. Defnyddio dau ddarn bach o bapur swigod, haen waelod a’r haen uchaf
  2. rhowch y cnu ar y papur swigod gan ddewis y lliwiau i greu’r dyluniad – blodau / glöyn byw / gwenynen / neidr / malwen / aderyn / buwch goch gota / gwas y neidr / pryfed / ystlumod / tylluan / llew / blwch/nyth aderyn etc. *Gallwch ddechrau gyda gwyn i wneud cefndir plaen ac ychwanegu lliwiau i greu dyluniad, neu ychwanegu lliwiau i wneud eich dyluniad
  3. yn ofalus, diferwch/arllwyswch ddŵr sebon cynnes ar y ffibrau gwlân, yna gorchuddiwch â’r haen uchaf o bapur swigod, pwyswch i lawr fel bod popeth y tu mewn wedi’i wlychu.
    *Byddwch yn ofalus, peidiwch â rhoi gormod o ddŵr – bydd tywel oddi tanodd yn dal diferiadau, ond rhowch ddigon o ddŵr fel bod y ffibrau gwlân yn wlyb drwyddynt
  4. gyda dwylo gwlyb, pwyswch i lawr ar yr haen uchaf o bapur swigod a thylinwch yr arwyneb, gan greu ychydig o drochion sebon a rhwbio’n gadarn gyda grym.
    *Wrth i chi rhwbio, bydd y cnu yn cymysgu ac yn plethu gyda’i gilydd gan ffurfio ffabrig, mae cadw eich dwylo yn wlyb a sebonllyd yn ei wneud yn haws
  5. Ar ôl rhwbio am gyfnod byr, cymerwch un ochr o’r papur swigod a’i rolio’n gadarn, gan gadw’r bwndel cnu ar y tu mewn
  6. Cadwch ef yn dynn a’i rolio 40 gwaith.  Dad-roliwch, yna dychwelwch i’r ochr dde a gwnewch yr un fath ar yr ochr honno
    *byddwch wedi rholio pedair ochr y bwndel papur swigod; mae hyn yn rhwymo ffibrau yn agosach
  7. Tynnwch haen uchaf y papur swigod a rhowch eich dwylo ar y dyluniad ffelt gan ychwanegu ychydig mwy o ddŵr sebon, a thylinwch
  8. Mwynhewch deimlad y deunyddiau a’r dŵr sebon cynnes ar eich dwylo, byddwch yn sylwi bod y ffibrau yn teimlo’n gadarn ac wedi rhwymo â’i gilydd, rydych wedi gwneud darn o ddeunydd ffelt
  9. Golchwch y sebon, ei wasgu’n dynn, ei ymestyn allan a’i adael i sychu. 

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:

Gan ddefnyddio cefndir o ffabrig lliw, gellir glynu’r eitemau unigol hyn i greu darn o gelf gyfunol, megis Gardd Synhwyraidd Hudol/ Gardd Nos / Sw Adar Ffantasi.  Addurnwch ac ychwanegwch ato gyda phennau hadau, egroes, mes, swllt dyn tlawd, glas y niwl, côn ysgawen, ffyn mwsoglyd.

Gellir arddangos yr eitemau y tu allan neu’r tu mewn, yn amlwg bydd yr eitemau yn cael eu heffeithio gan y tywydd yn y pendraw, weithiau bydd adar yn mynd â nhw i wneud nythod. Gellir glynu rhai ar ymbarél a’u hongian wyneb i waered.

-gwnewch ddarnau sy’n ysgogi sgwrs – blodau ar gyfer fâs, cwch gwenyn, blwch ystlumod, blwch offer, cwpan de a llwy

Gall y teulu ymuno â’r gweithgaredd hwn hefyd sy’n gwneud y dyluniadau yn ymgysylltiol ac yn fwy arbennig. 

Addasrwydd

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai galluog:  

Anogwch breswylwyr i chwarae, archwilio a thrin ffibrau, dewis lliwiau, gwneud siapiau, troi, clymu, plethu neu rolio.

Os yw preswylwyr yn fodlon, ychwanegwch chwistrelliad bach o ddŵr sebon cynnes ar eu dwylo, gall y ffibrau rwymo gyda chyswllt tyner, pwyso neu rolio gyda bysedd gan wneud siapiau neu batrymau rhydd.  

Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall: 

Gofynnwch i eraill beth allant weld, mae dyluniadau haniaethol neu blygiadau o gnu lliwgar yn berffaith ar gyfer hyn, gan ein bod ni i gyd yn gweld pethau’n wahanol.

Felt

Felt

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais