Defnyddio ffibrau gwlân crai o’r enw gwlân cnu i wneud dyluniadau lliwgar, synhwyraidd, cyffyrddol ac ymgysylltiol. Gall y rhain fod yn ddelweddau yn seiliedig ar y thema hoff lefydd gyda ffocws ar feddwl am ysgogi atgof a’r synhwyrau drwy ymweld â’r – ardd/traeth/ffair/gwinllan/fferm/gwyliau/sw etc
Nid oes rhaid i hyn fod yn llythrennol; gallech ganolbwyntio’n unig ar liwiau a fyddai’n gwneud collage hyfryd o ddyluniadau haniaethol patrymog. Edrychwch ar baentiadau gan arlunwyr, megis Water Lilies gan Renoir a Monet, Starry Night gan Van Goch. Dewiswch ddau neu dri lliw i weithio gyda nhw. Ystyriwch y broses a’r ffordd y mae’r deunyddiau yn cael eu trin, trwchus a thenau neu feddal a pha mor flewog yw’r deunyddiau sydd ynghlwm â’r broses gwneud ffelt.
Offer – lluniau / delweddau / straeon / cerddoriaeth / eitemau ag arogl persawr
meddwl am y llefydd hyn gyda chymorth –
Offer – hetiau / plu / balŵns / grawnwin / candi-fflos/ blodau / offer / dillad / arfbais / medalau
Neu canolbwyntiwch ar liw, gwnewch enfys,
Mae defnyddio gwlân fel deunydd yn aml yn ysgogi sgyrsiau ynghylch gwau dillad / gwneud ffrogiau / lifrai / ffermwyr defaid
Gan ddefnyddio cefndir o ffabrig lliw, gellir glynu’r eitemau unigol hyn i greu darn o gelf gyfunol, megis Gardd Synhwyraidd Hudol/ Gardd Nos / Sw Adar Ffantasi. Addurnwch ac ychwanegwch ato gyda phennau hadau, egroes, mes, swllt dyn tlawd, glas y niwl, côn ysgawen, ffyn mwsoglyd.
Gellir arddangos yr eitemau y tu allan neu’r tu mewn, yn amlwg bydd yr eitemau yn cael eu heffeithio gan y tywydd yn y pendraw, weithiau bydd adar yn mynd â nhw i wneud nythod. Gellir glynu rhai ar ymbarél a’u hongian wyneb i waered.
-gwnewch ddarnau sy’n ysgogi sgwrs – blodau ar gyfer fâs, cwch gwenyn, blwch ystlumod, blwch offer, cwpan de a llwy
Gall y teulu ymuno â’r gweithgaredd hwn hefyd sy’n gwneud y dyluniadau yn ymgysylltiol ac yn fwy arbennig.
Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai galluog:
Anogwch breswylwyr i chwarae, archwilio a thrin ffibrau, dewis lliwiau, gwneud siapiau, troi, clymu, plethu neu rolio.
Os yw preswylwyr yn fodlon, ychwanegwch chwistrelliad bach o ddŵr sebon cynnes ar eu dwylo, gall y ffibrau rwymo gyda chyswllt tyner, pwyso neu rolio gyda bysedd gan wneud siapiau neu batrymau rhydd.
Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall:
Gofynnwch i eraill beth allant weld, mae dyluniadau haniaethol neu blygiadau o gnu lliwgar yn berffaith ar gyfer hyn, gan ein bod ni i gyd yn gweld pethau’n wahanol.