Cardiau gweithgaredd

Tablecloth drawing
1

Cyd-ddylunio lliain bwrdd – Straeon

Mae hwn yn weithgaredd dylunio a pheintio dychmygus. Gall y gweithgarwch hwn fod yn arbennig o dda fel sesiwn ragarweiniol ‘dod i’ch adnabod’ neu fel ffurf ryngweithiol ar werthuso.

Y syniad: Yng nghanol lliain bwrdd ysgrifennwch gwestiwn, fel 

  • Sut ydych chi heddiw? 
  • Beth yw eich hoff rysáit/bwyd? 
  • Beth sy’n gwneud i chi ganu? 

Gall y rhain weithio’n dda fel mannau cychwyn ond ewch ati i arbrofi gyda’ch cwestiynau eich hun.

Mae angen pin ysgrifennu ar bawb i ddechrau, er mwyn ysgrifennu neu ddylunio, mewn unrhyw faint, eu hymateb i’r cwestiwn ar y lliain bwrdd – dechreuwch ymgorffori’r paent dyfrlliw, peintio siapiau geiriau, ehangu ac ymestyn llythrennau a geiriau i ffurfio siapiau a straeon newydd gan dynnu ysbrydoliaeth o’r hyn y gellir ei weld. 

Syniadau am thema: Hoff fwydydd/llefydd/gweithgareddau

Pethau sydd eu hangen:

  • Un lliain bwrdd cotwm, gwyn, plaen neu daflen (mae hen ddillad gwely yn berffaith ar gyfer hyn) dros fwrdd y gellir ei sychu, neu ar ben lliain bwrdd y gellir ei sychu
  • Pinnau gel du
  • Paent dyfrlliw
  • Brwshys dyfrlliw o ansawdd o wahanol feintiau
  • Dŵr mewn potiau addas – e.e. jariau jam gwag neu botiau paent â chaeadau na ellir eu harllwys

Canllaw Cam wrth Gam:

  1. Gosodwch y bwrdd – gosodwch y lliain bwrdd ac ysgrifennwch eich cwestiwn yn y canol i ddechrau’r sesiwn
  2. Rhannwch y pinnau ysgrifennu i bawb sy’n cymryd rhan, a gofynnwch iddynt ddarllen yr hyn yr ydych wedi’i ysgrifennu, neu darllenwch ar eu rhan
  3. Anogwch eich preswylwyr i ddechrau ysgrifennu neu dynnu lluniau beth bynnag maent yn ei deimlo ar y lliain bwrdd, gyda phin ysgrifennu gel du, i ymateb i’ch cwestiwn – mae hwn hefyd yn amser da i roi cerddoriaeth ymlaen, efallai gallwch gymryd ceisiadau a gwneud rhestr ganeuon
  4. Cyflwynwch y paent. Dechreuwch ychwanegu ychydig o liw at eich lliain bwrdd gyda’r paent dyfrlliw
  5. Edrychwch ar y geiriau, siapiau a delweddau a wnaed hyd yn hyn, dechreuwch eu hymestyn ac ychwanegu atynt, dylunio geiriau a’u troi’n anifeiliaid, gwrthrychau neu beth bynnag y gallant ei weld.
  6. Dechreuwch gysylltu gwahanol ardaloedd o’ch lliain bwrdd â straeon i’r preswylwyr ac o ysgrifen, dyluniadau a phaentiadau’r preswylwyr, gan wneud ac ychwanegu dyluniadau a straeon newydd wrth i chi fynd ymlaen, gan wahodd y preswylwyr i ddechrau creu’r stori gyda’i gilydd.

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn: 

Ceisiwch symud y lliain bwrdd o gwmpas er mwyn rhoi gwahanol rannau ohono o flaen gwahanol bobl i ganiatáu dylunio ar y cyd.

Gellir golchi’r lliain ei hun a thynnu lluniau arno eto, gan greu haenau o ddelweddau, yn ogystal â’i wnïo os yw hynny’n briodol.

Addasrwydd

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai abl:

Gall mynd yn syth at frwshys meddal a dyfrlliwiau llachar, cadarn fod yn arbennig o dda i’r rheiny sy’n ei chael hi’n anodd gwneud marciau â phinnau ysgrifennu, ac mae defnyddio lliwiau llachar yn gwneud y marciau yn fwy gweladwy.

Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall: 

Gellir gwneud y dull hwn yn unigol, ar raddfa fechan gan ddefnyddio hancesi poced gyda chylchoedd brodwaith, sydd hefyd yn ffordd dda o’u gwnïo lle bynnag sy’n briodol/ymarferol.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais