Cardiau gweithgaredd

Create a group story
2

Creu stori grŵp

Mae creu stori grŵp yn ffordd wych o gael pawb i gymryd rhan mewn gweithgaredd sy’n annog syniadau a’r dychymyg!

Casglwch wrthrychau o bob math: marblis, sbectol, maneg, pecynnau bwyd amrywiol, potyn o’r ardd, manion o siopau elusen.

Rhowch y gwrthrychau mewn bag neu focs a gofynnwch i’r preswylwyr dynnu un gwrthrych allan ar y tro. Wedyn gofynnwch i’r preswylwyr ychwanegu’r gwrthrych at y stori maen nhw’n ei chreu.

Tynnwch wrthrych arall a dal ati gyda’r stori. Peidiwch â phoeni bod y stori’n wirion neu ddim yn gwneud synnwyr. Yr hyn sy’n bwysig ydi cynnwys pob preswylydd sy’n awyddus i gymryd rhan, a’r holl wrthrychau.

Wedyn ysgrifennwch y stori a’i darllen yn ôl i’r grŵp fel bod pawb yn gallu clywed y stori maen nhw wedi helpu i’w chreu!

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais