Cardiau gweithgaredd

large canvas
1

Canfas mawr

Mae gweithio ar ganfas mawr yn gallu rhoi rhyddid creadigol i bobl, gan eu hannog i roi cynnig ar bethau newydd. Y ffordd orau i greu canfas mawr ydi prynu rholyn hir o bapur gwyn a gorchuddio bwrdd cyfan â’r papur.

Pan fydd y preswylwyr yn eistedd wrth y bwrdd, ewch ati i’w hannog i dynnu llun, paentio, printio, sgriblo a glynu unrhyw beth maen nhw eisiau … ble bynnag maen nhw eisiau!

Ceisiwch roi rhai gwrthrychau ar y bwrdd i ysbrydoli syniadau newydd: brigau i dynnu llun gydag inc, dail a phaent ar gyfer argraffu, sbwng, sialc, ffyn siarcol, gwahanol frwshys.

Gall y preswylwyr weithio ar eu hadrannau eu hunain neu benderfynu uno eu lluniau / creadigaethau i wneud un darn mawr o gelf.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais