Cardiau gweithgaredd

box
3

Bocs sbarduno

Mae creu bocs sbarduno’n ffordd hawdd o helpu preswylwyr i ddechrau meddwl yn fwy creadigol. Gallech gynnwys:

  • Ffotograffau
  • Erthyglau papur newydd
  • Pecynnau bwyd
  • Gwrthrychau naturiol (plu, mwsogl, ac ati)
  • Hen allweddi
  • Cerrig mân a chregyn
  • Papurau fferins lliwgar

Gofynnwch i’r preswylwyr ddewis rhywbeth allan o’r bocs ac wedyn eu hannog i siarad am y gwrthrych. Gallent ysgrifennu cerdd amdano, ysgrifennu eu hatgofion amdano, neu greu stori am yr hyn maen nhw wedi’i ddarganfod.

Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais