Bocs sbarduno
Mae creu bocs sbarduno’n ffordd hawdd o helpu preswylwyr i ddechrau meddwl yn fwy creadigol. Gallech gynnwys:
- Ffotograffau
- Erthyglau papur newydd
- Pecynnau bwyd
- Gwrthrychau naturiol (plu, mwsogl, ac ati)
- Hen allweddi
- Cerrig mân a chregyn
- Papurau fferins lliwgar
Gofynnwch i’r preswylwyr ddewis rhywbeth allan o’r bocs ac wedyn eu hannog i siarad am y gwrthrych. Gallent ysgrifennu cerdd amdano, ysgrifennu eu hatgofion amdano, neu greu stori am yr hyn maen nhw wedi’i ddarganfod.
Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd.