Bocs gwisgoedd
Un gweithgaredd hwyliog ydi defnyddio gwisgoedd. Efallai y gallech gasglu bocs gwisgoedd bach o hetiau, sgarffiau a chotiau, wedi’u cyfrannu gan y staff neu eu prynu o siopau elusen.
Caiff y preswylwyr ddewis eitem o ddillad a chreu cymeriad neu stori. Os nad yw preswylydd eisiau gwisgo i fyny, gofynnwch gwestiynau iddo am breswylydd arall sydd mewn gwisg.
- Pwy yw’r cymeriad?
- Beth yw ei stori?
- Beth mae’n ei wneud?
Bydd y preswylwyr yn gallu bod yn llawn
dychymyg!