Cardiau gweithgaredd

Bloom HD
1

Bloom HD

Os oes gennych chi iPad ar gael i’w ddefnyddio yn y sesiynau creadigol, mae Bloom HD yn un esiampl o ap sy’n galluogi i bobl sydd â rheolaeth gyfyngedig o ran sgiliau motor cain gyfrannu at weithgaredd cerddorol.

Mae posib lawrlwytho Bloom HD o’r App Store. Mae apiau eraill ar gael hefyd.

Gyda Bloom HD, mae cyffwrdd y sgrin yn cynhyrchu nodyn a lliw. Mae’r ap yn gwneud dolen o’r sain a’r lliw yma cyn galluogi i chi ychwanegu seiniau newydd.

Mae’r ap yma’n gweithio’n dda ar gyfer gweithgareddau un i un ond hefyd mae posib ei ddefnyddio i ysbrydoli seinwedd a gweithgareddau grŵp.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais