Bingo barddoniaeth
Mae barddoniaeth yn gallu gwneud i bobl deimlo’n anesmwyth weithiau.
Mae chwarae Bingo Barddoniaeth yn annog pobl i awgrymu eu hoff gerddi a hefyd creu rhywbeth newydd ohonyn nhw.
- Ysgrifennwch gerdd enwog
- Torrwch bob llinell allan
- Rhowch bob llinell mewn het neu fag
- Gofynnwch i rywun ddewis llinell a’i darllen yn uchel
- Nawr gwnewch gerdd neu bennill newydd yn dechrau gyda’r llinell yma o farddoniaeth
Mae edrych ar dudalen wag a cheisio ysgrifennu cerdd yn gallu bod yn anodd.
Mae’r ymarfer yma’n rhoi man cychwyn da i bobl.