Cardiau gweithgaredd

Magnetic Poetry
2

Barddoniaeth fagnetig

Mae’r gweithgarwch hwn yn ymwneud â meddwl am ein hatgofion a defnyddio’r magnetau hyn i ysgrifennu ychydig eiriau amdanynt.

Mae’n ffordd hwyliog o roi cynnig ar ysgrifennu creadigol.

Nid oes angen i chi allu sillafu na dal pin ysgrifennu.

Yn syml, gallwch ddewis geiriau sy’n sefyll allan i chi a ffurfio cerddi neu frawddegau byrion.

Pethau sydd eu hangen:

  • Set barddoniaeth fagnetig
  • Bwrdd mawr i osod y geiriau arno
  • Caead tun bisgedi, neu gyffelyb sy’n wastad ac a fydd yn dal magnetau

Canllaw Cam wrth Gam:

  1. Edrychwch ar y set geiriau magnetig.
  2. Gosodwch nhw ar wasgar ar y bwrdd â’u hwynebau i fyny, tuag atoch chi.
  3. Treuliwch ychydig funudau yn edrych yn hamddenol ar y geiriau a dewiswch rai sy’n sefyll allan. Efallai eu bod yn cysylltu ag atgofion neu brofiadau, ond nid oes rhaid iddynt.
  4. Unwaith y bydd gennych oddeutu 8 i 10 gair, ceisiwch eu plethu ynghyd gan ddefnyddio geiriau fel “ni”, “a”, “ef”. Gosodwch nhw ar gaead y tun bisgedi fel y gallwch eu symud o gwmpas heb iddynt ddisgyn.
  5. Cofiwch nid oes rhaid odli. Gall fod mor fanwl neu syml ag yr hoffech. Mae’r cwbl yn ymwneud ag archwilio’r detholiad eang o eiriau a cheisio’r rhai sy’n apelio atoch chi. Mae rhai themâu defnyddiol yn cynnwys: gwyliau, plentyndod, cariad, neu freuddwydion.
  6. Unwaith y bydd gennych oddeutu 8 i 10 gair, ceisiwch eu plethu ynghyd gan ddefnyddio geiriau fel “ni”, “a”, “ef”. Gosodwch nhw ar gaead y tun bisgedi fel y gallwch eu symud o gwmpas heb iddynt ddisgyn.

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:

Gellir tynnu lluniau o’r darnau sydd wedi’u cwblhau. Os yw’r llun yn un da, gellir chwyddo’r ddelwedd a’i harddangos.

Gallai’r atgofion neu’r profiadau a rannwyd arwain at ragor o weithgareddau.

Addasrwydd

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai galluog:

Defnyddiwch olau da a chwyddwydr neu darllenwch y geiriau yn uchel fesul un nes bod y cyfranogwyr wedi casglu nifer dda o eiriau. Nesaf, cynorthwywch nhw i gysylltu’r geiriau drwy chwilio am eiriau megis “yna” neu “a”, fel bod geiriau ar hap yn dechrau gwneud synnwyr a’u bod mewn trefn.

Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall: 

Mae hwn yn fwy addas ar gyfer gwaith un i un ond drwy dynnu lluniau gellir rhoi copi o’u geiriau i bob preswyliwr a rhannu hwn gyda’r grŵp, gan fynd i fanylder o ran beth oedd yr ysbrydoliaeth wrth wraidd iddo. Gobeithio y bydd hyn yn ysgogi atgofion ac yn caniatáu’r preswylwyr a’r staff i ddysgu pethau newydd am ei gilydd.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais