Cardiau gweithgaredd

Sandcastle
1

Ar lan y môr mae rhosys cochion!

Mae gan bawb atgof o fynd i’r traeth. Aer hallt, tywod dan eich traed, a sŵn gwylanod a’r tonnau. I nifer, bydd ymweld â’r traeth yn amlygu natur rydd, chwareus, atgofion melys o nofio, cestyll tywod a hufen iâ o bosibl. Er nad yw ymweld â thraeth go iawn yn bosibl bellach, daw’r gweithgaredd hwn â’r traeth i’r cartref, gyda gweithgaredd synhwyraidd sydd â’r nod o wneud i bobl wenu.

Pethau sydd eu hangen:

  1. Blwch bas mawr yn llawn tywod chwarae plant 
  2. Jwg fawr o ddŵr (i wlychu’r tywod)
  3. Bwcedi a rhawiau (un set fesul blwch o dywod)
  4. Cerdyn A4 gwyn (sy’n addas ar gyfer argraffydd)
  5. Camera (bydd angen i chi argraffu’r lluniau yn ystod y gweithgaredd)
  6. Siswrn
  7. Hetiau haul, peli ysgafn, sbectols haul etc.
  8. Ddim yn hanfodol ond yn ddymunol: Cerddoriaeth lan y môr

Canllaw Cam wrth Gam:

  1. Mae’r gweithgaredd hwn yn gweithio’n dda iawn gyda cherddoriaeth lan y môr yn chwarae yn y cefndir i gynorthwyo i osod yr olygfa. Gallwch ddechrau drwy ofyn cwestiynau ynghylch ymweliad â lan y môr: Beth fyddech chi’n ei wisgo? Beth fyddech chi’n dod gyda chi? Beth fyddech chi’n ei weld, clywed ac arogli pan fyddech yn cyrraedd yno?
  2. Pasiwch y bêl ysgafn, bwced a rhaw, het haul a sbectol haul o gwmpas a siaradwch am y gwahanol weadau ac atgofion. Anogwch ystumiau fel petaech ar y traeth gan ddefnyddio’r offer a thynnwch luniau gan gymryd arnoch eich bod ar y traeth.
  3. Argraffwch y lluniau hyn (oddeutu 4 darn o bapur A4) a thorrwch yn ofalus o gwmpas bob unigolyn i gael gwared ar gefndir y llun.
  4. Llenwch y cynhwysydd bas â thywod chwarae ac arllwyswch y dŵr i mewn. Bydd angen digon arnoch i wneud y tywod yn gadarn i’w gyffwrdd, ond ddim yn rhy wlyb. Mwynhewch gymysgu’r tywod i gael y trwch cywir ar gyfer adeiladu.
  5. Mwynhewch chwarae gyda thywod a gwneud cestyll tywod.
  6. Ychwanegwch y lluniau yr ydych wedi’u torri allan i greu arddangosfa dros dro o ymweliad â’r traeth.

Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:

Gallwch beintio cefndir ar gyfer yr olygfa hon, defnyddiwch baent glas ar gerdyn gwyn a pheintio’r môr a’r awyr. Bydd hyn yn gwella’r llun o ‘ymweliad â lan y môr’.

Gallwch hefyd wneud fflagiau i’w gosod ar y cestyll tywod.

Gallech argraffu lluniau i raddfa i ffitio o amgylch y castell tywod, neu ar ben y tyrau.

Addasrwydd

Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai abl:

Gellir codi’r blwch ar fwrdd is er mwyn i breswylwyr llai galluog deimlo’r tywod, neu, ar y llawr a gadewch i’r preswyliwr deimlo’r tywod rhwng bysedd eu traed.

Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall: 

Er mwyn i’r gweithgaredd hwn fod yn weithgaredd grŵp, bydd angen rhai blychau tywod a sawl bwced a rhaw arnoch. Gallech gynnal cystadleuaeth cestyll tywod.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais