Cardiau gweithgaredd

adar
1

Adar

Mae adar yn gallu bod yn thema wych ar gyfer sesiwn creadigol. Dechreuwch drwy ofyn cwestiwn i’ch preswylwyr, fel: ‘Beth ydi’ch hoff aderyn?’

Nesaf, siaradwch gyda’ch preswylwyr am eu hatgofion am adar, y synau mae gwahanol adar yn eu gwneud, ac am y gwahanol ddywediadau sy’n cynnwys adar:

‘Fel hwyaden at ddŵr’

‘Doeth fel tylluan’

‘Adar o’r unlliw ehedant i’r unlle’

Mae posib arddangos unrhyw eiriau, atgofion neu straeon ar bapur, eu hysgrifennu’n gerdd fer neu eu gwneud yn symudolyn siâp adar.

Dilynwch ni

Fflurflen gais

Fflurflen gais