Hel atgofion
Mae rhoi bocs o bethau i’w hysgogi at ei gilydd, pethau i brocio’r cof, yn ffordd hawdd o helpu’r preswylwyr i ddechrau meddwl yn fwy creadigol. Wedyn gall y gwrthrychau yma ysbrydoli gweithgareddau cerddorol.
Llenwch focs gyda gwrthrychau sy’n berthnasol i wahanol dymhorau’r flwyddyn:
- Torch flodau Nadoligaidd
- Potel o eli haul
- Gwlân oen
- Deilen grin yr hydref
Gofynnwch i rywun yn y grŵp ddewis gwrthrych ac wedyn ewch ati i annog y grŵp i rannu eu hatgofion am y gwrthrych hwnnw.
Chwiliwch am gân i gynrychioli pob tymor ac ewch ati i annog eich grŵp i ganu’r gân cyn symud ymlaen at y gwrthrych nesaf.