Gwneud offerynnau
Does dim angen offerynnau go iawn er mwyn creu cerddoriaeth. Gallwch greu eich offerynnau eich hun!
Gallwch greu drymiau, offerynnau ysgwyd neu offerynnau llinynnol gan ddefnyddio eitemau tŷ:
- Mae rhoi pys sych mewn potel blastig yn creu offeryn ysgwyd gwych
- Mae ymestyn bandiau lastig ar draws twb hufen iâ gwag yn creu offeryn i’w blycio
- Mae posib defnyddio tuniau Pringles gwag (gyda chaeadau metel a phlastig) fel drymiau
Nawr ewch ati i annog y preswylwyr i chwarae eu hofferynnau gan gadw at yr un curiad neu rythm.
Gallech greu eich band Ffync Jync eich hun!