Mae Claire yn diwtor a dylunydd a gwneuthurwr tecstilau ymarferol, sy’n datblygu ei harfer gweithio ei hun yn barhaus, gan arbenigo mewn ffibrau naturiol, lliwiau planhigion a gwneud ffelt gydag ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd rydym yn eu hwynebu heddiw.
Mae Claire wedi ennill profiad o weithio gydag anghenion addysgiadol gwahanol ac arbenigol, pobl gydag anableddau, cleifion cancr a phobl ifanc fregus, pobl hŷn a’r rheiny sy’n byw gyda dementia. Mae hi wedi gweithio mewn ystod o amgylcheddau o unedau diogel, ysbytai, hosbisau a chartrefi gofal.
Mae Claire yn cael ei hysgogi gan heriau a chyfleoedd drwy gyfnod preswyl i artistiaid, gweithio dan gomisiwn, ac wedi arddangos ei gwaith yn genedlaethol a rhyngwladol. Wedi cwblhau ystod o brosiectau artist preswyl yn llwyddiannus, o ddylunio, creu a hyrwyddo, mae ei gwaith wedi cael ei arddangos mewn orielau a llefydd cyhoeddus.
Mae Claire wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, ac mae hi wedi gweithio fel artist cARTrefu yn ystod cam cyntaf 2015 – 2017, a dychwelodd ar gyfer y trydydd cam yn 2019.