Llestri tsieina gorau
Gweithgaredd siarad, casglu atgofion a darlunio yn seiliedig ar lestri “gorau” o atgofion plentyndod.
Gallech gynllunio’r gweithgaredd hwn yn un o’r mannau cymdeithasu pan mae preswylwyr yn cael paneidiau. Defnyddiwch gwpanau te fel ffordd o osod yr olygfa a dechrau sgwrs.
Nod y gweithgaredd hwn yw dechrau sgwrs a fydd yn annog preswylwyr i ddwyn i’w cof eitemau arbennig neu werthfawr a arferai fod yn agos at galon eu teulu neu fod eu teuluoedd wedi gofalu amdanynt efallai, a rhannu straeon ynghylch thema gyffredin. Anogwch bobl i fraslunio wrth i chi siarad. Does dim pwysau i greu darluniau “perffaith”.
Pethau sydd eu hangen:
- Pennau ysgrifennu neu bensiliau a phapur
- Rhai enghreifftiau o grochenwaith nad ydynt yn cyd-fynd, h.y. platiau, soseri, cwpanau, llestri arian, dysglau grefi, lliain bwrdd. Bydd unrhyw beth yn gwneud y tro, ni fydd angen enghraifft o bob un o’r uchod arnoch, dim ond beth allwch chi ddod o hyd iddo o gwmpas y cartref neu eich cartref eich hun.
Awgrym ardderchog: Os ewch i werthiannau cist car neu siopau elusen, gallwch brynu rhai eitemau am ychydig geiniogau. Efallai gallwch ofyn i reolwr siop elusen a fyddai’n fodlon cadw eitemau sydd wedi cracio neu nad ydynt yn cyd-fynd â’i gilydd i un ochr rhag eu taflu.
Canllaw Cam wrth Gam:
- Casglwch wrthrychau sy’n weledol ddifyr ac sy’n gysylltiedig â setiau llestri, megis platiau, cwpanau te a chyllyll a ffyrc crand
- Gosodwch yr olygfa yn barod i breswylwyr drwy osod y gwrthrychau. Efallai yr hoffech osod lliain bwrdd hardd, a gweini te o gwpanau te deniadol nad ydynt yn cyd-fynd, neu weini teisenni sydd â chyllyll a ffyrc unigryw nad ydynt yn cyd-fynd. Mae amrywiaeth yn dda yma, oherwydd rydym yn gobeithio y bydd rhai o’r dyluniadau yn ysgogi atgofion o brydau bwyd y gorffennol.
- Sgwrsiwch! Nawr bod y preswylwyr yn gyfforddus, dechreuwch drafod yr eitemau. Anogwch y preswylwyr gyda chwestiynau megis:
A oedd gan eich teulu lestri arbennig a oedd yn cael eu defnyddio ar gyfer achlysuron arbennig yn unig? A ydych chi’n cofio sut rai oeddynt? Ble’r oeddech chi’n cadw eich te gorau i westeion? Pwy fyddai’n ei weini?
Pa fathau o fwyd fyddai’n cael ei weini ar y llestri? A allwch chi dynnu llun dyluniad y platiau?
A ydych chi’n cofio lle cawsant eu cadw? Cyfrifoldeb pwy oedd eu glanhau a’u cadw?
Pwy fyddai wrth y bwrdd? Dywedwch wrthyf am eich teulu.
- Gan ddefnyddio pinnau ysgrifennu, pensiliau neu unrhyw ddeunyddiau marcio sydd gennych, anogwch y preswylwyr i dynnu llun o’r eitemau sydd ar ddangos, neu geisio tynnu lluniau gwrthrychau o’r gorffennol y maent wedi’u trafod heddiw. Efallai yr hoffent dynnu llun o gwmpas platiau, a thynnu llun o bryd o fwyd sy’n dwyn i’w cof? Efallai yr hoffent dynnu llun y dyluniad sy’n addurno’r platiau, cwpanau neu grochenwaith. Efallai eu bod eisiau mwynhau sgwrs a gwrando ar straeon.
Nid oes rheolau.
- Cofnodwch y sylwadau, neu ysgrifennwch nhw i lawr. Os bydd preswylydd yn sôn am weithgareddau penodol, gallech ddatblygu’r rhain y tro nesaf. Er enghraifft, os bydd preswylydd yn sôn am bobi teisenni a’u gweini ar lestri Tsieina arbennig – gallech roi cynnig ar bobi neu addurno teisenni gyda’ch gilydd y tro nesaf. Gwrandewch yn astud oherwydd gall ysbrydoliaeth ddod o unrhyw le!
Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:
Gallai cymryd y sgyrsiau a theilwra gweithgareddau ar gyfer preswylwyr yn seiliedig ar yr hyn y maent yn ei ddatgelu a’i drafod gysylltu â bwyd/pobi/gwaith metel/bywyd llonydd
Addasrwydd
Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai galluog:
Cymerwch rwbiadau o lwyau.
Defnyddiwch lestri i fwyta bwyd neu yfed te, a sgwrsiwch am hen ddefodau coginio neu fwyta
Defnyddiwch yr eitemau fel pwynt ffocws er mwyn cael trafodaeth ac ymgynulliad cymdeithasol.
Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall:
Mae hwn yn weithgarwch hyfryd i’w wneud fel grŵp ond gellir hefyd ei wneud un i un gydag ymwelwyr gan nad oes pwysau i greu. Y sgwrs sydd bwysicaf.