Gwlân a ffelt
Os ydych chi eisiau gweithgaredd mwy heriol, gallech roi cynnig ar greu ffelt. Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw gwneud pêl.
- Dechreuwch gyda darn 15cm o wlân a’i lapio rownd blaen eich bys, newid cyfeiriad a’i dynhau
- Rholiwch y bêl yng nghledr eich llaw nes ei bod yn wastad ac wedyn ei rhoi mewn dŵr sebon cynnes
- Daliwch i rolio’r bêl yng nghledr eich llaw, gan ychwanegu pwysau i’w gwneud yn galetach
- Yn y diwedd, dylech fod wedi gwneud eich pêl ffelt eich hun. Os yw’n ddigon caled, dylai fownsio hefyd!
- Ar ôl i chi wneud sawl pêl ffelt, unwch nhw gyda’i gilydd gyda llinyn i wneud cadwen ffelt, neu eu defnyddio i greu gwahanol fath o collage neu lun