Gweithio gyda chlai
Mae clai yn ddeunydd gwych i breswylwyr weithio ag o. Mae’n dod mewn sawl ffurf a gwead ac mae’n gallu helpu i ymarfer cyhyrau llaw pobl hŷn.
Un gweithgaredd diddorol ydi creu darlun gan ddefnyddio clai fel canfas i weithio arno:
- Creu sgwâr o glai 15cm x 15cm a thua hanner modfedd o drwch
- Rhoi dewis o gerrig, cregyn, brigau, clipiau papur, beth bynnag allwch chi ddod o hyd iddo, i’r preswylwyr a’u hannog i wthio’r gwrthrychau i’r clai, gan greu eu llun clai eu hunain